2018 Rhif 1181 (Cy. 240)
Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101 a pharagraffau 4(a) a 25 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 25(3)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1Rhagarweiniad
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw datblygwr sy’n gwneud apêl yn erbyn penderfyniad o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “archiad i fabwysiadu” (“request to adopt”) yw archiad yn unol â pharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;
ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw’r awdurdod sy’n penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio;
ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—
- a
cais am gymeradwyaeth o dan baragraff 9 o Atodlen 3, neu
- b
y rhan honno o gais o dan baragraff 10 o Atodlen 3 sy’n ceisio cymeradwyaeth;
- a
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20002;
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3;
ystyr “datblygwr” (“developer”) yw—
- a
mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth, y person a wnaeth gais am gymeradwyaeth;
- b
mewn perthynas ag archiad i fabwysiadu, y person a wnaeth archiad yn unol â pharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;
- a
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903;
ystyr “hysbysiad apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 6(1);
ystyr “penderfyniad” (“decision”) yw penderfyniad corff cymeradwyo4 ynghylch—
- a
cais am gymeradwyaeth (gan gynnwys penderfyniad ynghylch amodau), neu
- b
y ddyletswydd i fabwysiadu.
- a
RHAN 2Apelau yn erbyn penderfyniadau
Apelau i Weinidogion Cymru3
1
Caiff datblygwr apelio yn erbyn penderfyniad drwy gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.
2
Rhaid cyflwyno apelau yn unol â’r Rhan hon.
3
At ddibenion paragraff (1) mae “penderfyniad” yn cynnwys gwrthodiad tybiedig—
a
o gais am gymeradwyaeth, neu
b
o archiad i fabwysiadu.
4
Mae i “gwrthodiad tybiedig”—
a
mewn perthynas â chais am gymeradwyaeth, yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(a)(ii);
b
mewn perthynas ag archiad i fabwysiadu, yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(b)(ii).
Effaith apêl4
1
Nid yw apêl yn erbyn penderfyniad yn cael yr effaith o ohirio’r penderfyniad.
2
Os yw apelydd yn apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch gosod amod cymeradwyo, ni chaniateir cychwyn gwaith adeiladu neu barhau â gwaith adeiladu nes bod yr apêl wedi ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
Terfyn amser ar gyfer gwneud apêl5
Rhaid gwneud apêl o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau—
a
ar gyfer apêl yn erbyn penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth (ac eithrio penderfyniad ynghylch amod)—
i
ar ddyddiad y penderfyniad, neu
ii
os yw’r apêl yn erbyn gwrthodiad tybiedig y cais sy’n deillio o fethiant y corff cymeradwyo i benderfynu ar y cais o fewn cyfnod a ragnodir at ddiben paragraff 11(5) o Atodlen 3, ar ddiwrnod olaf y cyfnod hwnnw;
b
ar gyfer apêl yn erbyn penderfyniad ynghylch archiad i fabwysiadu—
i
ar ddyddiad y penderfyniad, neu
ii
os yw’r apêl yn erbyn gwrthodiad tybiedig yr archiad sy’n deillio o fethiant y corff cymeradwyo i benderfynu ar yr archiad o fewn y cyfnod a ragnodir at ddiben paragraff 23(4)(a) o Atodlen 3, ar ddiwrnod olaf y cyfnod hwnnw;
c
ar gyfer apêl yn erbyn amod cymeradwyo (gan gynnwys amod sy’n pennu bond methu â chyflawni), ar y dyddiad y rhoddir cymeradwyaeth.
Gwneud apêl6
1
Rhaid i hysbysiad apêl—
a
bod yn ysgrifenedig, ar ffurflen a gafwyd oddi wrth Weinidogion Cymru,
b
datgan seiliau’r apêl,
c
datgan y ffeithiau y bydd yr apelydd yn dibynnu arnynt i ategu pob un o’r seiliau hynny ac unrhyw fanylion eraill am yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu eu cyflwyno mewn perthynas â’r apêl, a
d
cynnwys enw, cyfeiriad (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost) a rhif ffôn yr apelydd ac unrhyw asiant sy’n gweithredu ar ran yr apelydd.
2
Rhaid anfon yr hysbysiad at Weinidogion Cymru gyda’r canlynol—
a
datganiad o ran pa un a yw’r apelydd yn dymuno i’r apêl gael ei hymdrin drwy sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad, a
b
copi o ba un bynnag o’r canlynol sy’n berthnasol—
i
y cais am gymeradwyaeth ac unrhyw blan neu wybodaeth arall a oedd yn mynd gyda’r cais;
ii
yr archiad i fabwysiadu;
iii
yr hysbysiad am y penderfyniad;
iv
unrhyw dystysgrif a ddyroddwyd o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3;
v
unrhyw ohebiaeth rhwng yr apelydd a’r corff cymeradwyo neu’r awdurdod cynllunio mewn perthynas â’r cais, yr archiad neu’r dystysgrif.
3
Rhaid i apelydd sy’n anfon hysbysiad apêl at Weinidogion Cymru, ar yr un pryd, anfon copi o’r hysbysiad apêl a’r dogfennau cysylltiedig i’r corff cymeradwyo.
4
Caiff unrhyw hysbysiad neu ddogfen y mae’n ofynnol yn y rheoliad hwn ei anfon neu ei hanfon, neu ei ddarparu neu ei darparu, gael ei anfon neu ei hanfon drwy’r post neu gyfathrebiad electronig.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “dogfennau cysylltiedig” yw’r dogfennau perthnasol ym mharagraff (2)(b).
Defnyddio cyfathrebiadau electronig7
1
Mae paragraffau (2) i (6) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan apelydd at ddiben cyflawni unrhyw ofyniad yn rheoliad 6 er mwyn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).
2
Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
a
yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi,
b
yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac
c
yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.
3
Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu mewn unrhyw ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
4
Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
5
Mae gofyniad yn rheoliad 6 y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall fod yn ysgrifenedig wedi ei gyflawni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
6
Pan fo apelydd yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, cymerir eu bod wedi cytuno—
a
i ddefnyddio’r cyfathrebiadau hynny at yr holl ddibenion sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig,
b
mai cyfeiriad yr apelydd at ddiben cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr hysbysiad neu ddogfen arall, neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy, ac
c
y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu’r cytundeb yn unol â rheoliad 8.
Tynnu cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn ôl8
Pan na fo’r apelydd bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person rhoi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
a
yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu gorff cymeradwyo amdano at y diben hwnnw, neu
b
yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed â Gweinidogion Cymru neu gyda chorff cymeradwyo at y diben hwnnw.
RHAN 3Gweithdrefn ar gyfer penderfynu ar apêl
Y weithdrefn ar gyfer apelau9
1
Mae paragraffau (2) i (5) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael hysbysiad apêl dilys.
2
Mae adran 319B7 (pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol: Cymru) o Ddeddf 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 8 (“Rheoliadau 2017”) yn gymwys gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) i apêl o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai’n apêl o dan adran 78 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) o Ddeddf 1990.
3
Mae’r addasiadau fel a ganlyn—
a
mae unrhyw gyfeiriad at apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 i’w ddarllen fel cyfeiriad at apêl yn erbyn penderfyniad o dan y Rheoliadau hyn;
b
mae gan unrhyw gyfeiriad at “apelydd” yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1);
c
ystyr unrhyw gyfeiriad at “person penodedig” yw person a bennwyd i adrodd i Weinidogion Cymru;
d
mae unrhyw gyfeiriad at berson â buddiant i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr ymgyngoreion a bennir ym mharagraff 11(3) o Atodlen 3;
e
mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel cyfeiriad at y corff cymeradwyo;
f
mae unrhyw gyfeiriad at “datganiad achos” yn gyfeiriad at y datganiad yn rheoliad 6(1)(c);
g
rhaid i’r dogfennau sy’n gysylltiedig â’r holiadur a ddarperir gan gorff cymeradwyo yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2017, pan fo’n berthnasol, gynnwys copi o—
i
unrhyw ohebiaeth rhwng y corff cymeradwyo â’r ymgyngoreion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
ii
unrhyw ohebiaeth rhwng y corff cymeradwyo a’r awdurdod cynllunio lleol;
iii
unrhyw ohebiaeth rhwng y corff cymeradwyo a’r apelydd mewn perthynas â’r cais, yr archiad neu’r dystysgrif nas cyflwynwyd gyda’r dogfennau sy’n gysylltiedig â’r hysbysiad apêl.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad apêl dilys” yw hysbysiad apêl—
a
sy’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 6(1),
b
a anfonir at Weinidogion Cymru—
i
yn unol â rheoliad 6(2),
ii
o fewn y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5, ac
c
y mae’r apelydd yn ardystio mewn perthynas ag ef fod copi wedi cael ei anfon i’r corff cymeradwyo yn unol â rheoliad 6(3).
RHAN 4Penderfynu ar apêl
Penderfynu ar apêl10
1
Mae apêl o dan y Rheoliadau hyn i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
2
At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru benodi person (“y person penodedig”) i adrodd i Weinidogion Cymru.
Pwerau Gweinidogion Cymru pan fyddant yn penderfynu ar apêl11
1
Wrth benderfynu ar apêl yn erbyn penderfyniad—
a
caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r penderfyniad neu amnewid y penderfyniad, a
b
mae gan Weinidogion Cymru yr un pwerau a dyletswyddau â’r corff cymeradwyo wrth wneud y penderfyniad.
2
Wrth gadarnhau penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth, caiff Gweinidogion Cymru addasu’r penderfyniad drwy ddileu, amnewid neu osod amodau cymeradwyo.
3
Cymerir bod penderfyniad neu amod a amnewidir neu a osodir gan Weinidogion Cymru yn benderfyniad a wnaed, neu’n amod a osodwyd, gan y corff cymeradwyo.
Dyletswyddau penodol12
1
Wrth amnewid neu addasu penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
a
y safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy, a
b
unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff 15 o Atodlen 3.
2
Wrth amnewid penderfyniad ynghylch archiad i fabwysiadu, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ystyried p’un a ydynt wedi eu bodloni ai peidio ynghylch Amod 2 ym mharagraff 17 o Atodlen 3, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-baragraff (4) o’r paragraff hwnnw.
3
Wrth amnewid neu osod amod, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
a
ar gyfer amod sy’n pennu bond methu â chyflawni, unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff 12(6) o Atodlen 3, a
b
y safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy.
RHAN 5Amrywiol
Tystiolaeth a chostau13
1
Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19729 (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau) yn gymwys gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) i ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno.
2
Mae’r addasiadau fel a ganlyn—
a
mae unrhyw gyfeiriad at y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad i’w ddarllen fel cyfeiriad at y person a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn;
b
mae unrhyw gyfeiriad at awdurdod lleol i’w ddarllen fel cyfeiriad at gorff cymeradwyo.
3
Mae adran 322C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 199010 (costau: Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag apêl o dan y Rheoliadau hyn fel y mae’n gymwys i apêl y cyfeirir ato yn yr adran honno.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (3), rhaid i gostau gwrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan Weinidogion Cymru.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)