Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli’r cyfeiriadau at ddarpariaethau offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2018.
Dehongli2.
(1)
(2)
Mae i ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn digwydd yn y Rheoliad Bridio Anifeiliaid yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.
Yr awdurdod cymwys3.
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.
Gorfodi4.
Gorfodir y Rheoliad Bridio Anifeiliaid gan yr awdurdod cymwys.
Hysbysiadau5.
(1)
Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno o dan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid gael ei anfon at y gweithredwr—
(a)
drwy’r post; neu
(b)
yn electronig,
i’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad electronig a ddarperir gan y gweithredwr i’r awdurdod cymwys.
(2)
Os anfonir yr hysbysiad yn electronig at y gweithredwr, nid yw ond i’w drin fel pe bai wedi cael ei roi—
(a)
os yw’r gweithredwr wedi mynegi i’r awdurdod cymwys ei barodrwydd i gael hysbysiad drwy gyfrwng electronig a’i fod wedi darparu cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw; a
(b)
os anfonwyd yr hysbysiad i’r cyfeiriad hwnnw.
Rhwymedigaeth i hysbysu’r awdurdod cymwys am newid i fanylion cyswllt6.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo manylion cyswllt gweithredwr yn newid.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod cymwys fod ei fanylion cyswllt wedi newid yn ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y newid, a bydd y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod yn dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.
(3)
Rhaid i hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn gael ei anfon i’r awdurdod cymwys yn y cyfeiriad penodedig.
(4)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfeiriad penodedig” yw’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad electronig a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.
Cosbau7.
Pan fo gweithredwr yn torri rhwymedigaeth o dan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid neu o dan y Rheoliadau hyn, bydd yr awdurdod cymwys yn ymdrin â’r toriad hwnnw yn unol â’r darpariaethau yn Erthygl 47 o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid.
Adolygiad mewn cysylltiad â phenderfyniad a wnaed o dan Erthygl 47 o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid8.
(1)
Pan fo’r awdurdod cymwys wedi rhoi hysbysiad i gymdeithas y brid neu weithrediad bridio o dan Erthygl 47(2)(a) o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid mewn cysylltiad â phenderfyniad i dynnu yn ôl gydnabyddiaeth cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio a roddwyd yn unol ag Erthygl 4(3) o’r Rheoliad hwnnw, caiff cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio hwnnw wneud cais i’r awdurdod cymwys ailystyried y penderfyniad a roddwyd yn yr hysbysiad hwnnw.
(2)
Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)
cael ei wneud gan gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad perthnasol; a
(b)
nodi’r rhesymau dros wneud y cais a chael ei gyflwyno gyda’r dystiolaeth honno y mae cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio yn credu ei bod yn ategu’r rhesymau hynny.
(3)
Caiff yr awdurdod cymwys ofyn am dystiolaeth gan gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio i ategu’r cais.
(4)
Rhaid i’r awdurdod cymwys, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a)
ystyried y cais a gwneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef;
(b)
rhoi hysbysiad ysgrifenedig i gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio yn nodi a yw’r penderfyniad wedi ei gadarnhau neu ei wrthdroi; ac
(c)
os caiff y penderfyniad ei wrthdroi, cymryd y camau priodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad a gafodd ei wrthdroi.
(5)
Nid yw argaeledd adolygiad o dan y rheoliad hwn yn atal hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (1) rhag cael effaith yn syth ar ôl ei gyflwyno.
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20119.
(1)
(2)
“(ch)
y gwiriadau sy’n ofynnol gan Erthygl 37(1) o Reoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb, ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 652/2014, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC a 90/425/EEC ac yn diddymu actau penodol ym maes bridio anifeiliaid.”
(3)
“Rheoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb
Anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol”.
Dirymiadau10.
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)
(b)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Reoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb, (“y Rheoliad Bridio Anifeiliaid”) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ei orfodi.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015. Maent hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwiriadau ffiniau o dan amgylchiadau penodol a ragwelir gan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.