2018 Rhif 1152 (Cy. 234)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Coming into force
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli’r cyfeiriadau at ddarpariaethau offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.