2018 Rhif 1113 (Cy. 231)
Caffael Tir, Cymru
Digolledu

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 19731 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru2:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 3 Rhagfyr 2018.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 3.12.2018, gweler rhl. 1(1)

Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref2.

Pan fo dyddiad y dadleoli ar 3 Rhagfyr 2018 neu ar ôl hynny—

(a)

£59,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;

(b)

£5,900 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac

(c)

£5,900 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 3.12.2018, gweler rhl. 1(1)

Dirymu ac arbed3.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20173 wedi eu dirymu.

(2)

Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 3 Rhagfyr 2018.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 3.12.2018, gweler rhl. 1(1)

Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £57,500 i £59,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,750 i £5,900.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, o £5,750 i £5,900.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 3 Rhagfyr 2018 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.