Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).
Mae Rhan 3 o Reoliadau 2015 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch lleoli plentyn sy’n derbyn gofal, gyda rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth benodol mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r ardal.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at yr wybodaeth y mae rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei hysbysu i’r awdurdod lleol y tu allan i’r ardal neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y lleolwyd y plentyn yn ei ardal o dan reoliad 12(8) o Reoliadau 2015, ac y mae rhaid ei chyflenwi ddim hwyrach na 24 awr ar ôl gwneud y lleoliad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.