- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
29 Ionawr 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Chwefror 2018
Yn dod i rym
2 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 81(6)(d), 84(f), 87, 107(8) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
2.—(1) Mae rheoliad 12 (penderfyniad lleoli) o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(2) wedi ei ddiwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (6)(b) hepgorer “ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad”.
(3) Ym mharagraff (8), yn lle’r diffiniad o “hysbysu” rhodder—
““ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b) yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu—
ddim hwyrach na 24 awr ar ôl gwneud y lleoliad—
enw a dyddiad geni C,
cadarnhad ynghylch a yw C yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar sail wirfoddol(3) neu o dan orchymyn gofal(4),
manylion am unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn sydd wedi eu gwneud mewn perthynas ag C ac sy’n parhau mewn grym—
manylion am unrhyw ffactorau amddiffyn plant neu ffactorau risg sylweddol sy’n ymwneud ag C, gan gynnwys unrhyw berygl o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, materion iechyd corfforol neu iechyd meddwl, hanes o ddianc a/neu ymwneud ag asiantaethau cyfiawnder ieuenctid, ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffactorau hynny; a
ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad—
manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a
copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi ohono eisoes;”.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2018
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).
Mae Rhan 3 o Reoliadau 2015 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch lleoli plentyn sy’n derbyn gofal, gyda rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth benodol mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r ardal.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at yr wybodaeth y mae rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei hysbysu i’r awdurdod lleol y tu allan i’r ardal neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y lleolwyd y plentyn yn ei ardal o dan reoliad 12(8) o Reoliadau 2015, ac y mae rhaid ei chyflenwi ddim hwyrach na 24 awr ar ôl gwneud y lleoliad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2015/1818 (Cy. 261), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gweler adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gweler adran 31(11) o Ddeddf Plant 1989 (p. 41).
Gweler adran 7 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4).
Gweler adrannau 83 a 86 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (dsa 1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: