2018 Rhif 1095 (Cy. 228)
Pysgodfeydd Môr, Cymru

Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1), 5(1), 5(6), 6(1), 6(1A) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19671, a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 (“Deddf 1972”), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi4.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd5.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, yn Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 20066, yng Ngorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 20087 neu yng Ngorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys 20088, at y Rheoliadau a ganlyn gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
  1. (a)
    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 517/2008 dyddiedig 10 Mehefin 2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 o ran penderfynu ar faint rhwyllau ac asesu trwch cortynnau rhwydi pysgota9, a
  2. (b)
    Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin10

Enwi, cymhwyso, dehongli a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

(2)

Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.

(3)

Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(4)

Yn yr erthygl hon, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” ac mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 200611.

(5)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2018.

Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 20062.

(1)

Mae Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 200612 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ym mharagraff (2), ar ôl “Chymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.

(3)

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)

ym mharagraff (1)—

(i)

hepgorer y diffiniad o “Erthygl 9”;

(ii)

hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad CFP”;

(iii)

mewnosoder yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—

“mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;

“mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;

“ystyr “y Rheoliad Rheolaeth” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”;

(iv)

yn y diffiniad o “darpariaethau cywerth”, yn lle “Erthygl 9, neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”; a

(v)

yn y diffiniad o “pysgod”, yn lle “mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “mae’r Rheoliad Rheolaeth”;

(b)

yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3)

Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi eu diffinio ym mharagraff (1) na (2) ac sy’n ymddangos yn y Rheoliad Rheolaeth, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Rheoliad Rheolaeth.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl yn golygu Erthygl o’r Rheoliad Rheolaeth, ac mae cyfeiriad at Bennod II o Deitl V yn golygu Pennod II o Deitl V o’r Rheoliad Rheolaeth.”

(4)

Yn rheoliad 3 (cofrestru gwerthwyr pysgod)—

(a)

ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9” rhodder “Pennod II o Deitl V (Rheoli marchnata: gweithgareddau ar ôl glanio)”;

(b)

ym mharagraff (4), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 a 67”; ac

(c)

ym mharagraff (8)(b) yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 neu 67”.

(5)

Yn rheoliad 5 (cadw cofnodion gan werthwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “am 3 blynedd”.

(6)

Yn rheoliad 6 (dynodi safleoedd arwerthu pysgod)—

(a)

ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9 ac Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”;

(b)

ym mharagraff (3), yn lle “gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “gyda Phennod II o Deitl V”; ac

(c)

ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”.

(7)

Yn rheoliad 7 (cofrestru prynwyr pysgod)—

(a)

ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 22(2)(b) o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthygl 59”;

(b)

ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 a 67”; ac

(c)

ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 neu 67”.

(8)

Yn lle rheoliad 8 (prynu pysgod gan brynwr anghofrestredig) rhodder—

“8.

Bydd unrhyw berson sy’n prynu pysgod yn groes i Erthygl 59(2) yn euog o drosedd, oni bai bod yr esemptiad yn Erthygl 59(3) yn gymwys.”

(9)

Yn rheoliad 9 (cadw cofnodion gan brynwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “, am 3 blynedd”.

(10)

Yn rheoliad 13 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn cysylltiad â chychod pysgota), ym mharagraff (1), ar ôl “Cymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.

(11)

Yn lle rheoliad 15 (pwerau swyddogion pysgod môr Prydain i atafaelu pysgod) rhodder—

“15.

Caiff unrhyw swyddog pysgod môr Prydain atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy’n dal y pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gywerth.”

(12)

Yn Atodlen 1 (amodau perthnasol i gofrestriadau gwerthwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 9” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.

(13)

Yn Atodlen 3 (amodau perthnasol i gofrestriadau prynwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 22(2) o’r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.

Diwygiadau i Orchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 20083.

Yng Ngorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 200813, yn erthygl 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3)

Nid yw’r Gorchymyn hwn ond yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig sydd naill ai—

(a)

wedi eu cofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 199514; neu

(b)

o dan berchnogaeth lwyr personau sy’n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o’r Ddeddf honno.”

Diwygiadau i Orchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 20084.

Yng Ngorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 200815, yn erthygl 2 (dehongli), ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003” hyd at y diwedd, rhodder “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 517/2008 dyddiedig 10 Mehefin 2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 o ran penderfynu ar faint rhwyllau ac asesu trwch cortynnau rhwydi pysgota”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1495 (Cy. 145)) er mwyn cywiro gwallau a diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE. Mae hefyd yn diwygio Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1438 (Cy. 150)) a Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1811 (Cy. 175)) er mwyn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.