- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gwnaed
16 Hydref 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Hydref 2018
Yn dod i rym
20 Tachwedd 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1), 5(1), 5(6), 6(1), 6(1A) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) (“Deddf 1972”), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(4).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(5).
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn, yn Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006(6), yng Ngorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008(7) neu yng Ngorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys 2008(8), at y Rheoliadau a ganlyn gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 517/2008 dyddiedig 10 Mehefin 2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 o ran penderfynu ar faint rhwyllau ac asesu trwch cortynnau rhwydi pysgota(9), a
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin(10)
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.
(3) Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn yr erthygl hon, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” ac mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(11).
(5) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2018.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ym mharagraff (2), ar ôl “Chymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “Erthygl 9”;
(ii)hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad CFP”;
(iii)mewnosoder yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—
“mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;
“mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;
“ystyr “y Rheoliad Rheolaeth” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”;
(iv)yn y diffiniad o “darpariaethau cywerth”, yn lle “Erthygl 9, neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”; a
(v)yn y diffiniad o “pysgod”, yn lle “mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “mae’r Rheoliad Rheolaeth”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi eu diffinio ym mharagraff (1) na (2) ac sy’n ymddangos yn y Rheoliad Rheolaeth, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Rheoliad Rheolaeth.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl yn golygu Erthygl o’r Rheoliad Rheolaeth, ac mae cyfeiriad at Bennod II o Deitl V yn golygu Pennod II o Deitl V o’r Rheoliad Rheolaeth.”
(4) Yn rheoliad 3 (cofrestru gwerthwyr pysgod)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9” rhodder “Pennod II o Deitl V (Rheoli marchnata: gweithgareddau ar ôl glanio)”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 a 67”; ac
(c)ym mharagraff (8)(b) yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 neu 67”.
(5) Yn rheoliad 5 (cadw cofnodion gan werthwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “am 3 blynedd”.
(6) Yn rheoliad 6 (dynodi safleoedd arwerthu pysgod)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9 ac Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle “gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “gyda Phennod II o Deitl V”; ac
(c)ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”.
(7) Yn rheoliad 7 (cofrestru prynwyr pysgod)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 22(2)(b) o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthygl 59”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 a 67”; ac
(c)ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 neu 67”.
(8) Yn lle rheoliad 8 (prynu pysgod gan brynwr anghofrestredig) rhodder—
“8. Bydd unrhyw berson sy’n prynu pysgod yn groes i Erthygl 59(2) yn euog o drosedd, oni bai bod yr esemptiad yn Erthygl 59(3) yn gymwys.”
(9) Yn rheoliad 9 (cadw cofnodion gan brynwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “, am 3 blynedd”.
(10) Yn rheoliad 13 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn cysylltiad â chychod pysgota), ym mharagraff (1), ar ôl “Cymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.
(11) Yn lle rheoliad 15 (pwerau swyddogion pysgod môr Prydain i atafaelu pysgod) rhodder—
“15. Caiff unrhyw swyddog pysgod môr Prydain atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy’n dal y pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gywerth.”
(12) Yn Atodlen 1 (amodau perthnasol i gofrestriadau gwerthwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 9” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.
(13) Yn Atodlen 3 (amodau perthnasol i gofrestriadau prynwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 22(2) o’r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.
3. Yng Ngorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008(13), yn erthygl 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn ond yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig sydd naill ai—
(a)wedi eu cofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(14); neu
(b)o dan berchnogaeth lwyr personau sy’n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o’r Ddeddf honno.”
4. Yng Ngorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008(15), yn erthygl 2 (dehongli), ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003” hyd at y diwedd, rhodder “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 517/2008 dyddiedig 10 Mehefin 2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 o ran penderfynu ar faint rhwyllau ac asesu trwch cortynnau rhwydi pysgota”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1495 (Cy. 145)) er mwyn cywiro gwallau a diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE. Mae hefyd yn diwygio Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1438 (Cy. 150)) a Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1811 (Cy. 175)) er mwyn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth berthnasol yr UE.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1967 p. 84 (“Deddf 1967”). Diwygiwyd adran 3(1) gan erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 43(1) a (2)(b) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 198(1) a (2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”). Gweler adran 5(9) o Ddeddf 1967 am ddiffiniad o “the appropriate national authority”. Mewnosodwyd adran 5(9) gan adran 198(3) o Ddeddf 2009 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4(2) a (4) o O.S. 2010/760. Diwygiwyd adran 5(6) gan adran 22(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29) ac adran 201 o Ddeddf 2009 a pharagraffau 3(1) a 4(a), (b) ac (c) o Atodlen 15 iddi. Diwygiwyd adran 6(1) gan erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 43(1) a (6)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Mewnosodwyd adran 6(1A) gan adran 23(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraff 43(1) a (2)(b) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Amnewidiwyd adran 15(3) gan adran 22(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77) a Rhan 2 o Atodlen 1 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p. 86), a pharagraff 16(1) o Atodlen 2 iddi, ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan erthygl 4 o O.S. 1999/1820 a pharagraffau 43(1) a (2)(b) o Atodlen 2 iddo. Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 am ddiffiniad o “the Ministers” at ddibenion adrannau 3, 5, 6 a 15(3) o’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 22(2) gan adrannau 19(2)(d), 45(a), (b) ac (c) a 46(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, a Rhan 2 o Atodlen 5 iddi, a chan erthygl 4 o O.S. 1999/1820, a pharagraff 43(1) a (12) o Ran 1 a Rhan 4 o Atodlen 2 iddo.
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adrannau 3, 5, 6 a 15 o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38)) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru (gan weithredu ar y cyd ag unrhyw Weinidog y Goron y maent yn arferadwy ganddo mewn perthynas ag adran 15(3)). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd erthyglau 4(1)(b) a 5(1)(b) o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760), cafodd swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adrannau 3, 5, 6 a 15 o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo ymhellach i Weinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â pharth Cymru (gan weithredu ar y cyd ag unrhyw Weinidog y Goron y maent yn arferadwy ganddo mewn perthynas ag adran 15(3)).
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi a chan erthygl 3 o O.S. 2007/1388 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo. Mae wedi ei ddiddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).
OJ Rhif L 151, 11.6.2008, t. 5.
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812 (OJ Rhif L 133, 29.5.2015, t. 1).
2006 p. 32. Mae diwygiadau i adran 158 nad ydynt yn berthnasol i’r diffiniad hwn. At ddibenion y diffiniad o “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf 2006, y ffin rhwng y rhannau hynny o’r môr o fewn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i’w trin fel rhai sy’n gyfagos i Gymru a’r rhai nad ydynt i’w trin felly yw, ym mhob achos, llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf 2006, a pharagraff 26 o Atodlen 11 iddi, mae O.S. 1999/672 yn parhau i gael effaith. Mewnosodwyd y diffiniad o “Welsh zone” yn adran 158(1) gan adran 43 o Ddeddf 2009. Pennir parth Cymru yng Ngorchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).
O.S. 2008/1811 (Cy. 175); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/3144 (Cy. 279) a 2011/1043.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: