NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994 ar gyfer Cymru.

Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”) yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 1990. Mae hyn wedi ei ddiffinio yn erthygl 2 fel esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig. Mae’r adrannau hynny yn ymwneud â rheoli adeiladau rhestredig, gan gynnwys: hysbysiadau diogelu adeilad; cyfyngiadau ar waith dymchwel, addasu neu estyn; caffael yn orfodol adeiladau y mae angen eu hatgyweirio; gwaith cadwraeth brys gan awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru; a throseddau mewn perthynas â difrod bwriadol.

Mae adran 75 o Ddeddf 1990 yn darparu nad yw adeiladau eglwysig sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig yn ddarostyngedig i adran 74 o Ddeddf 1990. Mae adran 74 yn ymwneud â rheoli dymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth. Hwn yw’r esemptiad eglwysig cydsyniad ardal gadwraeth.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dileu’r esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig yn achos pob adeilad eglwysig ac eithrio ar gyfer yr achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4. O dan erthygl 4 cedwir yr esemptiad mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru ar yr amod mai’r prif ddefnydd a wneir o’r adeilad o dan sylw yw fel man addoli, ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn yr erthygl honno.

Mae adeilad eglwys yn cynnwys—

(a)

unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth adeilad yr eglwys;

(b)

unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir.

(Dyma’r sefyllfa erbyn hyn ni waeth pa un a yw’r gwrthrych neu strwythur hwnnw yn rhestredig yn ei hawl ei hun ai peidio.)

Mae erthygl 6 yn darparu os yw cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn perthynas ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir (fel y’i diffinir yn erthygl 4(1)(b)), eisoes wedi ei wneud cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yna ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cais hwnnw a bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn parhau i benderfynu ar y cais hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu’r esemptiad eglwysig cydsyniad ardal gadwraeth o ran pob adeilad eglwysig.

Mae erthygl 1(3) yn darparu nad yw colli’r esemptiad eglwysig yn effeithio ar unrhyw waith sydd wedi cychwyn, neu unrhyw waith yr ymrwymwyd i gontract mewn cysylltiad ag ef, cyn i’r Gorchymyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Gwasanaethau’r Amgylchedd Hanesyddol (Cadw), Llywodraeth Cymru, Plas Carew, Caerdydd, CF15 7QQ ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.