2018 Rhif 1087 (Cy. 227)
Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a darpariaeth atodol1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 1 Ionawr 2019.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i adeiladau eglwysig yng Nghymru sydd am y tro yn cael eu defnyddio at ddibenion eglwysig.
3
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth ar gyfer gwaith a gychwynnwyd, neu ar gyfer gwaith yr ymrwymwyd i gontract mewn cysylltiad ag ef, cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
mae i “yr Eglwys Fethodistaidd” yr ystyr a roddir i “the Methodist Church” fel y’i diffinnir yn adran 2(1) o Ddeddf yr Eglwys Fethodistaidd 19763; ac
ystyr “esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig” (“listed buildings ecclesiastical exemption”) yw’r esemptiad rhag darpariaethau adrannau 3A, 4, 7 i 9, 47, 54 a 59 o Ddeddf 19904 y darperir ar ei gyfer yn adran 60(1) i (3) o Ddeddf 19905.
Eithrio esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig3
Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei eithrio mewn cysylltiad â phob adeilad eglwysig ar wahân i’r achosion hynny sy’n dod o fewn erthygl 4.
Adeiladau sy’n cadw esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig4
1
Yn yr erthygl hon, ystyr “adeilad eglwys” (“church building”) yw adeilad a ddefnyddir yn bennaf fel man addoli, ac at ddibenion y diffiniad hwn mae—
a
unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a
b
unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir,
yn cael ei drin fel pe bai’n rhan o adeilad yr eglwys.
2
Mae esemptiad eglwysig adeiladau rhestredig wedi ei gadw ar gyfer yr adeiladau a ganlyn i’r graddau a nodir ym mharagraff (3)—
a
b
adeiladau eglwys o fewn awdurdodaeth hawleb Eglwys Loegr;
c
adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth gan ymddiriedolwyr esgobaethol un o esgobaethau’r Eglwys Gatholig;
d
adeiladau eglwys sy’n eiddo i’r Eglwys Fethodistaidd, neu sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar ei chyfer, neu at ei dibenion, neu unrhyw sefydliad cyfundebol neu leol i’r Eglwys Fethodistaidd;
e
adeiladau eglwys sy’n cael eu dal ar ymddiriedolaeth ar gyfer Eglwys sy’n aelod o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr neu Undeb Bedyddwyr Cymru gan naill ai—
i
the Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill); neu
ii
the Welsh Baptist Union Corporation Limited (pa un ai’n unigol neu ar y cyd â pherson arall neu bersonau eraill).
3
Mae esemptiad eglwysig adeilad rhestredig yn gyfyngedig mewn cysylltiad ag adeiladau eglwys sy’n dod o fewn is-baragraffau (a) ac (c) i (e) o baragraff (2) i waith a gynhelir—
a
gan neu ar ran eglwys neu gorff, neu ran gyfansoddol o eglwys neu gorff, y cyfeirir ati neu ato yn yr is-baragraffau hynny; neu
b
gan neu ar ran corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr y sefydliad hwnnw pan fo’r adeiladau eglwys o dan sylw ar unrhyw fangre sy’n ffurfio rhan o brifysgol, coleg, ysgol, ysbyty, sefydliad cyhoeddus neu sefydliad elusennol.
Eithrio esemptiad cydsyniad ardal gadwraeth5
Mae’r esemptiad rhag darpariaethau adran 74 o Ddeddf 19908 y darperir ar ei gyfer yn adran 75(1)(b) o Ddeddf 1990 wedi ei eithrio yn achos pob adeilad eglwysig gan gynnwys—
a
unrhyw wrthrych neu strwythur sy’n sownd wrth yr adeilad hwnnw; a
b
unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir.
Darpariaethau trosiannol: gwrthrychau a strwythurau o fewn cwrtil6
Nid yw erthygl 4 yn gymwys pan fo cais am gydsyniad adeilad rhestredig mewn perthynas ag unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil adeilad eglwys, er nad yw’n sownd wrth yr adeilad hwnnw, sy’n ffurfio rhan o’r tir, yn cael ei wneud cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Dirymu Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19947
Mae Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19949 wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)