2018 Rhif 1077 (Cy. 226)
Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101, a pharagraffau 4(a), 11(5), 17(5), 18(3), 23(7), 24(5) a 28 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i’r Ddeddf;
ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—
- a
cais am gymeradwyaeth a wneir yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3, neu
- b
y rhan honno o gais cyfun a wneir yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 3 y gwneir cais am gymeradwyaeth mewn perthynas â hi—
ac mae cyfeiriad at “cais dilys” (“valid application”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
- a
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am gymeradwyaeth;
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 am system ddraenio2 i waith adeiladu3;
ystyr “cynnig a gadarnhawyd” (“confirmed proposal”) yw cynnig i wneud gwaith ailadeiladu a gadarnhawyd o dan reoliad 15;
mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904;
mae i “datblygwr” yr ystyr a roddir i “developer” ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715, nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
ystyr “gwaith ailadeiladu” (“reconstruction work”) yw gwaith a wneir—
- a
i ailadeiladu system ddraenio gynaliadwy i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau, neu
- b
i adeiladu system ddraenio gynaliadwy newydd yn unol â’r safonau cenedlaethol i weithredu yn lle’r system ddraenio gynaliadwy yr effeithiwyd arni gan y gwaith statudol;
- a
ystyr “gwaith adferol” (“remedial work”) yw gwaith a wneir ar system ddraenio gynaliadwy—
- a
i unioni difrod a achoswyd gan waith statudol, a
- b
i sicrhau bod y system ddraenio gynaliadwy yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol;
- a
mae i “gwaith statudol” (“statutory works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 14;
ystyr “safonau cenedlaethol” (“national standards”) yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir o dan baragraff 5 o Atodlen 3;
ystyr “system ddraenio gynaliadwy” (“sustainable drainage system”) yw’r rhannau hynny o system ddraenio nad ydynt wedi eu breinio mewn ymgymerwr carthffosiaeth yn unol â chytundeb o dan adran 104 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19916;
mae i “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13.
2
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio7.
RHAN 2Penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth
Gwrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth3
1
Caiff corff cymeradwyo8 wrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth nad yw’n cael ei wneud yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3.
2
Pan fo corff cymeradwyo yn gwrthod penderfynu ar gais yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
a
rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei wrthod a rhoi’r rhesymau dros hynny, a
b
dychwelyd unrhyw ffi am gais sy’n mynd gyda’r cais.
Dyletswydd i ymgynghori cyn penderfynu ar gais am gymeradwyaeth4
1
Rhaid i gorff cymeradwyo, pan fydd yn gwneud cais am ymateb gan berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraff 11(3) o Atodlen 3 (“ymgynghorai”), bennu dyddiad ar gyfer ymateb sydd o fewn 3 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo anfon y cais.
2
Cyn diwedd y cyfnod a bennir o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ymgynghorai gytuno ar ddyddiad gwahanol ar gyfer ymateb.
3
Caiff y corff cymeradwyo ddiystyru ymateb a geir gan ymgynghorai ar ôl y terfyn amser perthnasol.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfyn amser perthnasol” yw—
a
cyfnod a bennir o dan baragraff (1), neu
b
unrhyw gyfnod arall y cytunir arno o dan baragraff (2).
Terfynau amser ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth5
1
Rhaid i gorff cymeradwyo benderfynu ar—
a
cais am gymeradwyaeth sy’n ymwneud â datblygiad sy’n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20179(“Rheoliadau 2017”) o fewn cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys, neu
b
unrhyw gais arall am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys.
2
Cyn diwedd y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) o baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ceisydd gytuno ar gyfnod hwy ar gyfer penderfynu ar gais.
3
Ystyrir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar gais o fewn y terfyn amser perthnasol yn gwrthod y cais.
4
Yn y rheoliad hwn—
mae i “Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“Environmental Impact Assessment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017;
mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 199010;
ystyr “terfyn amser perthnasol” (“relevant time limit”)yw—
- a
cyfnod a bennir ym mharagraff (1), neu
- b
unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno o dan baragraff (2).
- a
RHAN 3Dyletswydd i fabwysiadu
Hysbysu am benderfyniad i fabwysiadu6
Rhaid i hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3 bennu—
a
y rhesymau dros y penderfyniad, a
b
dyddiad y penderfyniad.
Rhyddhau bond methu â chyflawni pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys7
1
Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r corff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3.
2
Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
a
dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
b
gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
3
Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
a
anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
b
talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
c
rhyddhau’r bond methu â chyflawni.
Cofrestru a dynodi pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys8
O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo—
a
trefnu—
i
i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol11 gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf,
ii
i awdurdod dynodi12 ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Ddeddf unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni, a
b
yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 63 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 199113, rhoi hysbysiad o fwriad i ddynodi, o dan yr adran honno, unrhyw ran o’r system ddraenio a fabwysiadwyd sy’n stryd o fewn ystyr adran 48 o’r Ddeddf honno.
RHAN 4Pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys
Eithriad ar gyfer eiddo unigol9
At ddibenion paragraff 18(1) neu (2) o Atodlen 3, mae system ddraenio neu unrhyw ran o system ddraenio i’w thrin fel pe bai wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i eiddo unigol yn unig os yw wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i unrhyw adeiladau neu strwythurau eraill y bydd y canlynol, ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, yn berchen arnynt, yn eu rheoli neu â rheolaeth drostynt—
a
person unigol, neu
b
dau berson neu ragor gyda’i gilydd.
Rhyddhau bond methu â chyflawni pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys10
1
Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau system ddraenio a adeiledir yn unol â chynigion a gymeradwywyd.
2
Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—
a
dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a
b
gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.
3
Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—
a
anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,
b
talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac
c
rhyddhau’r bond methu â chyflawni.
4
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cynigion a gymeradwywyd” (“approved proposals”) yw cynigion a gymeradwywyd o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3, gan gynnwys unrhyw amodau ynghylch y gymeradwyaeth;
mae “system ddraenio” (“drainage system”) i’w dehongli fel system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
Hysbysu am fabwysiadu gwirfoddol11
1
Rhaid i gorff cymeradwyo roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penderfynu mabwysiadu system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.
2
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
a
y rheswm dros fabwysiadu, a
b
y dyddiad mabwysiadu.
Cofrestru a dynodi yn dilyn mabwysiadu gwirfoddol12
O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo drefnu—
a
i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf, a
b
i awdurdod dynodi ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni.
RHAN 5Gwaith ar dir cyhoeddus
Ystyr “statutory undertaker”13
At ddiben paragraff 28(3)(a) o Atodlen 3, ystyr “statutory undertaker” yw person sydd â’r hawl o dan ddarpariaeth mewn deddfiad a restrir yn rheoliad 14 i wneud gwaith statudol ar dir cyhoeddus.
Ystyr “statutory works”14
At ddiben paragraff 28(3)(b) o Atodlen 3, ystyr “statutory works” yw gwaith y caniateir ei wneud gan berson o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
a
adran 159 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199114 (pŵer i osod, arolygu, cynnal a chadw etc. bibelli);
b
Atodlen 4 i Ddeddf Nwy 198615 (pŵer i dyllu strydoedd);
c
paragraff 10(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Trydan 198916 (pŵer i wneud tyllau turio);
d
Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 200317.
Hysbysu am waith statudol a chynigion ar gyfer gwaith ailadeiladu15
1
Ac eithrio mewn argyfwng, ni chaiff ymgymerwr statudol ddechrau ar waith statudol a fydd yn effeithio ar weithrediad system ddraenio gynaliadwy neu a allai wneud hynny, ar unrhyw dir cyhoeddus, oni bai ei fod o leiaf 4 wythnos cyn i’r gwaith statudol ddechrau, yn hysbysu’r corff cymeradwyo ar gyfer y system ddraenio honno am—
a
y gwaith statudol arfaethedig, a
b
y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.
2
Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ddod i ben ar y diwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwaith statudol i ddechrau.
3
Os dechreuir y gwaith statudol mewn argyfwng, rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r gwaith statudol ddechrau, hysbysu’r corff cymeradwyo—
a
bod y gwaith statudol wedi dechrau, a
b
am y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.
4
Ni chaniateir dechrau ar waith ailadeiladu oni bai bod y corff cymeradwyo wedi cadarnhau’r cynnig i wneud y gwaith ailadeiladu.
5
Oni bai bod y corff cymeradwyo wedi hysbysu’r ymgymerwr statudol fel arall, cymerir bod cynnig i wneud gwaith ailadeiladu wedi ei gadarnhau—
a
mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (1)(b), 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi;
b
mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (3)(b), 48 awr ar ôl i’r corff cymeradwyo gael yr hysbysiad.
6
Rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gwaith ailadeiladu, hysbysu’r corff cymeradwyo am y dyddiad y cwblhawyd y gwaith statudol.
Gofyniad i ymgymryd â gwaith adferol16
1
Os yw ymgymerwr statudol yn methu â gwneud gwaith ailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, caiff y corff cymeradwyo ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr wneud gwaith adferol o fewn amserlen benodedig.
2
Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo—
a
gwneud gwaith adferol, a
b
adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.
Gwaith statudol i gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol17
1
O fewn 12 mis ar ôl i’r gwaith statudol gael ei gwblhau, rhaid i’r corf cymeradwyo benderfynu a yw wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
2
Mae’r gofynion fel a ganlyn—
a
bod system ddraenio newydd neu un a ailadeiladwyd yn gweithredu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd,
b
bod system ddraenio gynaliadwy newydd, os nad yw wedi ei hailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol, neu
c
bod system ddraenio gynaliadwy a ailadeiladwyd, os nad yw wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, wedi ei hailadeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau.
3
Os nad yw corff cymeradwyo wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, caiff ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr statudol wneud gwaith ailadeiladu neu waith adferol o fewn amserlen benodedig.
4
Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3), caiff y corff cymeradwyo—
a
gwneud gwaith adferol, a
b
adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)