2018 Rhif 1075 (Cy. 225)
Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101, a pharagraffau 4(a) a 13 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 13(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, mewn perthynas â ffioedd am geisiadau am gymeradwyaeth, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i ba mor ddymunol fyddai sicrhau nad yw incwm y ffi yn sylweddol uwch na’r costau (uniongyrchol ac anuniongyrchol) y mae’r cyrff sy’n cymeradwyo2 yn mynd iddynt mewn cysylltiad â chymeradwyo.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “cais” (“application”) yw cais am gymeradwyaeth a wneir i gorff cymeradwyo yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) o Atodlen 3 ac mae cyfeiriadau at “ceisydd” (“applicant”) i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 3;
ystyr “ffi am gais” (“application fee”) yw ffi sydd i’w chodi mewn perthynas â chais.
Ffioedd ceisiadau3
1
Caiff corff cymeradwyo godi ffi am gais ar geisydd.
2
Rhaid pennu ffi am gais yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Graddfa ffioedd4
1
Yn ddarostyngedig i reoliadau 5 i 9, pennir ffi am gais fel a ganlyn—
a
£350 am bob cais, a
b
swm ychwanegol hyd at uchafswm o £7,500 a gyfrifir drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu fel a ganlyn—
i
£70 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf;
ii
£50 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at a chan gynnwys 1.0 hectar;
iii
£20 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 1.0 hectar a hyd at a chan gynnwys 5.0 hectar;
iv
£10 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar sy’n fwy na 5.0 hectar.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal adeiladu” yw—
a
yr ardal o dir a nodwyd ar blan sy’n mynd gyda’r cais am ganiatâd cynllunio5, neu
b
os nad oes cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud, yr ardal o dir y mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn arno, neu y bwriedir cychwyn gwaith adeiladu arno.
Ffi sy’n daladwy gan gyngor cymuned am gais5
1
Os mai cyngor cymuned yw’r ceisydd, mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyngor cymuned” yw cyngor cymuned neu dref yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19726.
Cais a addaswyd drwy gytundeb cyn dod i benderfyniad6
Os caiff cais am gymeradwyaeth ei addasu drwy gytundeb rhwng y corff cymeradwyo a’r ceisydd cyn i’r corff cymeradwyo ddod i benderfyniad yn ei gylch, ni chaniateir i’r corff hwnnw godi ffi mewn perthynas â’r addasiad y cytunwyd arno.
Ffioedd am geisiadau sy’n cynnwys cynigion eraill7
1
Rhaid pennu ffi am gais yn unol â pharagraff (2) pan fo’r ceisydd—
a
yn gwneud mwy nag un cais i gymeradwyo system ddraenio7 ar gyfer gwaith adeiladu, a phob un yn amlinellu cynnig arall i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw, neu
b
yn gwneud un cais i gymeradwyo system ddraenio ar gyfer gwaith adeiladu sy’n amlinellu mwy nag un o gynigion eraill i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw.
2
Swm y ffi am gais yw—
a
y ffi sydd i’w chodi am y cais neu (yn achos paragraff (1)(b)) y cynnig, a fyddai’n denu’r ffi uchaf yn unol â rheoliad 4, a
b
hanner y swm o’r ffioedd a fyddai i’w codi oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4 mewn cysylltiad â phob un o’r ceisiadau neu’r cynigion sy’n weddill.
3
At ddibenion rheoliadau 3(2) a 4 yn achos cais sydd o fewn paragraff (1)(b), mae pob cynnig i gael ei drin fel petai’n gais ar wahân.
Ffioedd am arolygiad fel amod o gymeradwyaeth8
Pan fo corff cymeradwyo yn rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod (ni waeth pa un a yw’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill) bod un arolygiad neu ragor yn cael ei gynnal neu eu cynnal, caiff godi ffi o £168 am bob arolygiad.
Ffi sydd i’w chodi am gais yn ymwneud â chais blaenorol9
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff cymeradwyo wedi cymeradwyo cais yn flaenorol (“y cais blaenorol”) mewn perthynas â system ddraenio.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4, os gwneir cais dilynol—
a
o fewn 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r cais blaenorol, a
b
sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â’r system ddraenio a oedd yn destun y cais blaenorol, gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyo’r cais blaenorol.
3
Ni chaiff corff cymeradwyo godi ffi pan fo cais o dan baragraff (2) yn ymwneud ag amod yn unig, ac eithrio amod o dan baragraff 11(2)(a) o Atodlen 3, o gymeradwyo’r cais blaenorol.
Ad-dalu ffioedd am gais10
Pan fo ffi am gais neu ran ohoni yn cael ei chodi mewn camgymeriad, rhaid i gorff cymeradwyo ad-dalu’r ffi honno neu ran ohoni cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)