Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1075 (Cy. 225)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018

Gwnaed

10 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Hydref 2018

Yn dod i rym

7 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a) a 13 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 13(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, mewn perthynas â ffioedd am geisiadau am gymeradwyaeth, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i ba mor ddymunol fyddai sicrhau nad yw incwm y ffi yn sylweddol uwch na’r costau (uniongyrchol ac anuniongyrchol) y mae’r cyrff sy’n cymeradwyo(2) yn mynd iddynt mewn cysylltiad â chymeradwyo.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

ystyr “cais” (“application”) yw cais am gymeradwyaeth a wneir i gorff cymeradwyo yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) o Atodlen 3 ac mae cyfeiriadau at “ceisydd” (“applicant”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 3;

ystyr “ffi am gais” (“application fee”) yw ffi sydd i’w chodi mewn perthynas â chais.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu”(3) i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu y mae iddo oblygiadau o ran draenio(4).

Ffioedd ceisiadau

3.—(1Caiff corff cymeradwyo godi ffi am gais ar geisydd.

(2Rhaid pennu ffi am gais yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Graddfa ffioedd

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 5 i 9, pennir ffi am gais fel a ganlyn—

(a)£350 am bob cais, a

(b)swm ychwanegol hyd at uchafswm o £7,500 a gyfrifir drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu fel a ganlyn—

(i)£70 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf;

(ii)£50 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at a chan gynnwys 1.0 hectar;

(iii)£20 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 1.0 hectar a hyd at a chan gynnwys 5.0 hectar;

(iv)£10 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar sy’n fwy na 5.0 hectar.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal adeiladu” yw—

(a)yr ardal o dir a nodwyd ar blan sy’n mynd gyda’r cais am ganiatâd cynllunio(5), neu

(b)os nad oes cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud, yr ardal o dir y mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn arno, neu y bwriedir cychwyn gwaith adeiladu arno.

Ffi sy’n daladwy gan gyngor cymuned am gais

5.—(1Os mai cyngor cymuned yw’r ceisydd, mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyngor cymuned” yw cyngor cymuned neu dref yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6).

Cais a addaswyd drwy gytundeb cyn dod i benderfyniad

6.  Os caiff cais am gymeradwyaeth ei addasu drwy gytundeb rhwng y corff cymeradwyo a’r ceisydd cyn i’r corff cymeradwyo ddod i benderfyniad yn ei gylch, ni chaniateir i’r corff hwnnw godi ffi mewn perthynas â’r addasiad y cytunwyd arno.

Ffioedd am geisiadau sy’n cynnwys cynigion eraill

7.—(1Rhaid pennu ffi am gais yn unol â pharagraff (2) pan fo’r ceisydd—

(a)yn gwneud mwy nag un cais i gymeradwyo system ddraenio(7) ar gyfer gwaith adeiladu, a phob un yn amlinellu cynnig arall i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw, neu

(b)yn gwneud un cais i gymeradwyo system ddraenio ar gyfer gwaith adeiladu sy’n amlinellu mwy nag un o gynigion eraill i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw.

(2Swm y ffi am gais yw

(a)y ffi sydd i’w chodi am y cais neu (yn achos paragraff (1)(b)) y cynnig, a fyddai’n denu’r ffi uchaf yn unol â rheoliad 4, a

(b)hanner y swm o’r ffioedd a fyddai i’w codi oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4 mewn cysylltiad â phob un o’r ceisiadau neu’r cynigion sy’n weddill.

(3At ddibenion rheoliadau 3(2) a 4 yn achos cais sydd o fewn paragraff (1)(b), mae pob cynnig i gael ei drin fel petai’n gais ar wahân.

Ffioedd am arolygiad fel amod o gymeradwyaeth

8.  Pan fo corff cymeradwyo yn rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod (ni waeth pa un a yw’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill) bod un arolygiad neu ragor yn cael ei gynnal neu eu cynnal, caiff godi ffi o £168 am bob arolygiad.

Ffi sydd i’w chodi am gais yn ymwneud â chais blaenorol

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff cymeradwyo wedi cymeradwyo cais yn flaenorol (“y cais blaenorol”) mewn perthynas â system ddraenio.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4, os gwneir cais dilynol—

(a)o fewn 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r cais blaenorol, a

(b)sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â’r system ddraenio a oedd yn destun y cais blaenorol, gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyo’r cais blaenorol.

(3Ni chaiff corff cymeradwyo godi ffi pan fo cais o dan baragraff (2) yn ymwneud ag amod yn unig, ac eithrio amod o dan baragraff 11(2)(a) o Atodlen 3, o gymeradwyo’r cais blaenorol.

Ad-dalu ffioedd am gais

10.  Pan fo ffi am gais neu ran ohoni yn cael ei chodi mewn camgymeriad, rhaid i gorff cymeradwyo ad-dalu’r ffi honno neu ran ohoni cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad hwnnw.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Hydref 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i gorff cymeradwyo godi ffioedd mewn perthynas â cheisiadau i gymeradwyo systemau draenio cynaliadwy yn unol ag Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff corff cymeradwyo godi ffi (“ffi am gais”) mewn perthynas â chais i gymeradwyo system ddraenio, a bod rhaid i ffioedd o’r fath gael eu pennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 4 yn darparu’r dull o bennu’r ffioedd am gais, yn ddarostyngedig i reoliadau 5 i 9.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngol am gais mewn achosion lle gwneir cais gan gyngor cymuned.

Mae rheoliad 6 yn darparu pan fo achosion lle caiff cais ei addasu drwy gytundeb rhwng y corff cymeradwyo a’r ceisydd cyn ei benderfynu, ni fydd unrhyw ffi ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â’r addasiad y cytunwyd arno.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngol mewn perthynas â cheisiadau sy’n cynnwys mwy nag un cynnig arall ar gyfer system ddraenio.

Mae rheoliad 8 yn darparu i ffioedd fod yn daladwy am arolygiadau, pan fo corff cymeradwyo yn rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod bod un neu ragor o arolygiadau yn cael ei gynnal neu eu cynnal.

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ffi ostyngol am gais pan fo datblygwr yn gwneud cais dilynol am gymeradwyaeth sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â system ddraenio y cytunwyd arni yn flaenorol o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y cais dilynol.

Mae rheoliad 10 yn darparu i’r ffioedd am gais gael eu had-dalu mewn amgylchiadau penodol.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).

(2)

Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.

(3)

Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(2)(a) o Atodlen 3.

(4)

Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.

(5)

Diffinnir “planning permission” ym mharagraff 8(4) o Atodlen 3.

(7)

Diffinnir “drainage system” ym mharagraff 1 o Atodlen 3.