xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 21(5) a (6)

ATODLEN 7LL+CGwaharddiadau ar draddodi deunydd perthnasol i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd heb basbort planhigion

RHAN ALL+CDeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Prunus L., ac eithrio Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L., Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

2.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L. neu Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

3.  Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

4.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., Zanthoxylum L. neu Vitis L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

5.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

6.  Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., gyda dail a phedynclau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

7.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—LL+C

(a)planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r genera Abies Mill., Apium graveolens L. Argyranthemum spp., Asparagus officinalis L., Aster spp., Brassica spp., Castanea Mill., Cucumis spp., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Exacum spp., Fragaria L., Gerbera Cass., Gypsophilia L, pob rhywogaeth o hybridau Guinea Newydd Impatiens L., Lactuca spp., Larix Mill., Leucanthemum L., Lupinus L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Picea A. Dietr., Pinus L., Platanus L., Populus L., Prunus laurocerasus L., Prunus lusitanica L., Pseudotsuga Carr., Quercus L., Rubus L., Spinacia L., Tanacetum L., Tsuga Carr., Ulmus L., Verbena L. neu blanhigion eraill rhywogaethau llysieuol, ac eithrio planhigion o’r teulu Gramineae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu fylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron;

(b)planhigion Solanaceae, ac eithrio hadau neu’r rheini a bennir ym mharagraff 3, a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu;

(d)planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart, Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syragrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.;

(e)hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L., Helianthus annuus L, Solanum lycopersicum L. neu Phaseolus L.; neu

(f)bylbiau, cormau, cloron neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Dahlia spp., Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. (megis Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort. neu Gladiolus tubergenii hort.), Hyacinthus L., Iris L., Ismene Herbert, Lilium spp., Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L., Tigridia Juss. neu Tulipa L.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

8.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

9.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Viburnum spp., Camellia spp., Rhododendron spp., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio UDA, neu o’r Undeb Ewropeaidd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

10.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

11.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

12.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

13.  Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol neu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

14.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, ac sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

15.  Paill byw neu blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

16.  Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC—LL+C

(a)sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P. armeniaca L., P. avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley:

(b)a dyfwyd y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789; ac

(c)sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

17.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw neu blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o’r Penderfyniad hwnnw nad ydynt erioed wedi cael eu tyfu mewn ardal o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

18.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 7 para. 18 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

19.  Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 7 para. 19 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

RHAN BLL+CDeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei draddodi i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ond gan basbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw

20.  Planhigion Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L. neu Pseudotsuga Carr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 7 para. 20 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

21.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., Platanus L., Populus L., Prunus L., Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 7 para. 21 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

22.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Amelanchier Med., Castanea Mill., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Eucalyptus L’Hérit, Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L., Sorbus L. neu Vitis L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 7 para. 22 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

23.  Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendl., Borassus flabellifer L., Brahea Mart., Butia Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae Kunth, Livistona R. Br., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix L., Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 7 para. 23 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

24.  Paill byw ar gyfer peillio Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 7 para. 24 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

25.  Cloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 7 para. 25 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

26.  Planhigion Beta vulgaris L. y bwriedir eu defnyddio ar gyfer prosesu diwydiannol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 7 para. 26 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

27.  Pridd o fetys neu wastraff heb ei sterileiddio o fetys (Beta vulgaris L.).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 7 para. 27 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

28.  Hadau Beta vulgaris L., Castanea Mill., Dolichos Jacq., Gossypium spp. neu Phaseolus vulgaris L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 7 para. 28 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

29.  Ffrwythau (hadlestri) Gossypium spp. neu gotwm heb ei heislanu neu ffrwythau Vitis L.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 7 para. 29 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)

30.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—LL+C

(a)planhigion, ac eithrio cormau, hadau neu gloron, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu

(b)planhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Euphorbia pulcherrima Willd., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 7 para. 30 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)