16. Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 200/90EC—
(a)sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P. armeniaca L., P. avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley:
(b)a dyfwyd y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789; ac
(c)sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed.