ATODLEN 2Deunydd perthnasol na chaniateir dod ag ef i Gymru na’i symud o fewn Cymru os yw’r deunydd hwnnw’n cario plâu planhigion neu wedi ei heintio â phlâu planhigion

RHAN BPlâu planhigion y gwyddys eu bod yn bresennol yn yr Undeb Ewropeaidd

Pryfed, gwiddon a nematodau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Aphelenchoides besseyi Christie

2.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.

Daktulosphaira vitifoliae (Fitch)

3.

Blodau, bylbiau neu gormau Crocus L., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. gan gynnwys Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort., Gladiolus tubergenii hort., Hyacinthus L., Iris L., Trigridia Juss. neu Tulipa L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu gloron (Solanum tuberosum L.), a fwriedir ar gyfer eu plannu

Ditylenchus destructor Thorne

4.

Hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; bylbiau neu gormau Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne, Hyacinthus L., Ismene Herbert, Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L. neu Tulipa L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L.

Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev

5.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Circulifer haematoceps (Mulsant a Rey)

6.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Circulifer tenellus (Baker)

7.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Eutetranychus orientalis Klein

8.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Pelargonium L’Hérit ex Ait. neu’r teulu Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu

Helicoverpa armigera (Hübner)

9.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Parasaissetia nigra (Nietner)

10.

Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth., Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans,. Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.

Paysandisia archon (Burmeister)

11.

Planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp., neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu

Radopholus similis (Cobb) Thorne

12.

Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendle., Borassus flabellifer L., Brahea armata S. Watson, Brahea edulis H. Wendl., Butia capitata (Mart.) Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. Ex Mart., Chamaerops humilis L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubaea chilensis (Molina) Baill., Livistona australis C. Martius, Livistona decora (W. Bull) Dowe, Livistona rotundifolia (Lam.) Mart., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix canariensis Chabaud, Phoenix dactylifera L., Phoenix reclinata Jacq., Phoenix roebelenii O’Brien, Phoenix sylvestris (L.) Roxb., Phoenix theophrasti Greuter, Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal palmetto (Walter) Lodd. ex Schult. a Schult. f., Syagrus roman-zoffiana (Cham.) Glassman, Trachycarpus fortunei (Hook.) H. Wendl. neu Washingtonia Raf.

Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)

13.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller

14.

Blodau wedi eu torri neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu blanhigion rhywogaethau llysieuol, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau, neu

  • hadau

Liriomyza huidobrensis (Blanchard)

15.

Blodau wedi eu torri neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu blanhigion rhywogaethau llysieuol, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau, neu

  • hadau

Liriomyza trifolii (Burgess)

Bacteria

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.

Hadau Medicago sativa L.

Clavibacter michiganensis ssp. Insidiosus (McCulloch) Davis et al.

2.

Planhigion Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Clavibacter michiganensis ssp. michiganensis (Smith) Davis et al.

3.

Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al.

4.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Erwinia chrysanthemi pv. Dianthicola (Hellmers) Dickey

5.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder

6.

Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus persica (L.) Batsch neu Prunus persica var. nectarina (Ait.) Maxim, a fwriedir ar gyfer eu plannu

Pseudomonas syringae pv. Persicae (Prunier et al.) Young et al.

7.

Hadau Phaseolus L.

Xanthomonas campestris pv. Phaseoli (Smith) Dye

8.

Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al.

9.

Planhigion Solanum lycopersicum L. neu Capsicum spp., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Xanthomonas campestris pv. Vesticatoria (Doidge) Dye

10.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Xanthomonas fragariae Kennedy a King

11.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.

Xylophilus ampelinus (Panagopoulos) Willems et al.

Ffyngau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.

Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.

2.

Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Chalara fraxinea T. Kowalski, gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus

3.

Planhigion Castanea Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr

4.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx

5.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Phialophora cinerescens (Wollenweber) van Beyma

6.

Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili

7.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Phytophthora fragariae Hickman var. Fragariae

8.

Hadau Helianthus annuus L.

Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni

9.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Puccinia horiana Hennings

10.

Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Scirrhia pini Funk a Parker

11.

Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Verticillium albo-atrum Reinke a Berthold

12.

Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Verticillium dahliae Klebahn

Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws amryliw Arabis

2.

Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws deildro betys

3.

Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Candidatus Phytoplasma ulmi

4.

Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firoid arafu twf ffarwelau haf

5.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Firws tristesa sitrws (arunigion Ewropeaidd)

6.

Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.

Flavescence dorée MLO gwinwydd

7.

Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws brech eirin

8.

Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu

Mycoplasm stolbur tatws

9.

Planhigion Solanum lycopersicum L., Capsicum annuum L. neu Capsicum frutescens L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu blanhigion Solanum tuberosum L

Firoid y gloronen bigfain

10.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws crwn mafon

11.

Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Spiroplasma citri Saglio et al.

12.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws crych mefus

13.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws crwn cudd mefus

14.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws minfelyn ysgafn mefus

15.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws crwn du tomatos

16.

Planhigion, ac eithrio hadau, Apium graveolens L., Capsicum annuum L., Cucumis melo L., Dendranthema (DC.) Des Moul., unrhyw amrywogaeth o hybridau Guinea Newydd o Impatiens, Lactuca sativa L., Solanum lycopersicum L. neu Nicotiana tabacum L. a rhaid bod tystiolaeth y’u bwriedir ar gyfer eu gwerthu i gynhyrchwyr tybaco proffesiynol, Solanum melongena L. neu Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws gwywo brith tomatos

17.

Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Firws deildro melyn tomatos