Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig
7. Yr ail set o fesurau dileu yw—
(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum mlynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;
(b)gofyniad—
(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, bod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—
(aa)yn fraenar;
(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes unrhyw risg o ledaenu Pydredd coch tatws;
(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; neu
(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;
(ii)mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned; a
(iii)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw.