18. Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—
(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi;
(b)unrhyw berson—
(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig;
(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi y mae’r person yn ei meddiannu neu â gofal amdani; ac
(c)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgarwch arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.