ATODLEN 15Mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd cylch tatws3

Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—

a

bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

b

bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

c

bod gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—

i

gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

ii

glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws.