Gwaharddiad ar blannu tatws
5. Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—
(a)plannu mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd; neu
(b)plannu neu storio mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a fwriedir ar gyfer ei blannu.