xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
31.—(1) Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre ar bob adeg resymol at ddiben—
(a)canfod presenoldeb neu ddosbarthiad pla planhigion yn y fangre;
(b)gwirio a gydymffurfiwyd ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn;
(c)cynnal archwiliad o fangre masnachwr planhigion (gan gynnwys deunydd perthnasol, dogfennau neu gofnodion yn y fangre) mewn cysylltiad ag awdurdodiad neu gais am awdurdodiad y masnachwr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion o dan erthygl 29;
(d)gorfodi darpariaethau’r Gorchymyn hwn fel arall.
(2) Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.
(5) Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—
(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre neu unrhyw wrthrych yn y fangre;
(b)cymryd samplau o unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol, neu o unrhyw gynhwysydd neu becyn, neu o unrhyw ddeunydd sydd wedi bod, neu y gallai fod wedi bod, mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol;
(c)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd perthnasol.
(6) Caiff arolygydd, at ddiben arfer pŵer a roddir o dan baragraff (5), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ran yr arolygydd, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.
(7) Caiff arolygydd wahardd symud, trin neu ddifa unrhyw bla planhigion, deunydd perthnasol, cynhwysydd neu becyn neu unrhyw ddeunydd a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r arolygydd i arfer y pwerau a roddir gan baragraff (5).
(8) Pan gedwir unrhyw ddogfen y cyfeirir ati neu unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) ar gyfrifiadur, caiff arolygydd—
(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod neu’r ddogfen, a’u harolygu a gwirio eu gweithrediad;
(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu, roi i’r arolygydd unrhyw gymorth y bo’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol.
(9) Caiff arolygydd ddifa neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan baragraff (5)(b) pan na fo angen y sampl ar yr arolygydd mwyach o dan y Gorchymyn hwn.
(10) Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(11) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;
(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;
(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.
(12) Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.
32.—(1) Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol yn debygol o gael ei gyflwyno i Gymru, neu ei fod wedi ei gyflwyno i Gymru, yn groes i’r Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i berson priodol.
(2) Person priodol yw—
(a)masnachwr planhigion neu berson arall sy’n meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â’r hawl mewn unrhyw fodd i fod ag ef o dan ei ofal neu ei reolaeth; neu
(b)unrhyw berson sydd â gofal am y fangre y cedwir y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol ynddi, neu y mae’n debygol o gael ei gadw ynddi, ar ôl cael ei lanio.
(3) Caiff hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)gwahardd glanio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol;
(b)pennu ym mha fodd y mae unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol i’w lanio a’r rhagofalon sydd i’w cymryd wrth lanio ac ar ôl hynny;
(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;
(d)gwahardd symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion;
(e)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(f)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion.
(4) Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu unrhyw berson arall â gofal am y fangre neu’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol.
(5) Caiff hysbysiad o dan baragraff (4)—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;
(b)gwahardd symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir;
(c)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(d)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir.
(6) Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu o’r fangre a grybwyllir ym mharagraff (4), neu sicrhau ei fod yn cael ei ddileu o’r fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu i berson sydd â gofal am unrhyw fangre arall, yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam rhesymol at y diben hwnnw.
(7) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;
(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr; neu
(iii)pla planhigion nad yw’n bresennol mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;
(b)ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material”) yw—
(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu
(ii)deunydd perthnasol y gwaherddir ei lanio o dan erthygl 5 neu 18 neu y gwaherddir ei symud yng Nghymru o dan erthygl 20.
33.—(1) Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd heintiedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, fynd i’r fangre a chymryd camau yn y fangre neu yn rhywle arall i—
(a)difa unrhyw bla planhigion a reolir;
(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu;
(c)difa unrhyw ddeunydd heintiedig; neu
(d)trin unrhyw ddeunydd heintiedig.
(2) Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.
(5) Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(6) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;
(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;
(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.
(7) Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2; neu
(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr;
(b)ystyr “deunydd heintiedig” (“infected material”) yw—
(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu
(ii)deunydd perthnasol nad yw’n cario nac wedi ei heintio â phla planhigion, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu.
34.—(1) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) o erthygl 32 bennu un gofyniad neu ragor, neu ofynion eraill.
(2) Rhaid i unrhyw ofyniad a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), (4) neu (6) o erthygl 32 gael ei gyflawni yn y modd ac o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir gan yr arolygydd yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw driniaeth, ailallforio, difa neu waredu sy’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 gael ei gynnal gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu rhaid i’r person hwnnw drefnu iddo gael ei gynnal, er boddhad arolygydd, o’r man neu yn y man a bennir yn yr hysbysiad.
(4) Ni chaniateir i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 iddo gael ei symud i fan a bennir yn yr hysbysiad gael ei symud i’r man dynodedig ac eithrio yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Caiff arolygydd ddiwygio neu dynnu yn ôl hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn drwy hysbysiad pellach.
(6) Caiff hysbysiad o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion neu ailheintio neu ailheigio gan y pla planhigion y mae’r hysbysiad gwreiddiol yn ymwneud ag ef.
(7) Caiff unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ddiffinio drwy gyfeirio at fap neu gynllun neu fel arall hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad.
(8) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod â gofal am y fangre y mae hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 yn ymwneud â hi—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, a dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd; a
(b)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.
35.—(1) Rhaid i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i fasnachwr planhigion cofrestredig gael ei gyflwyno drwy—
(a)ei ddanfon yn bersonol; neu
(b)ei adael ar gyfer y masnachwr, neu ei anfon ato drwy’r post, yng nghyfeiriad mangre gofrestredig y masnachwr neu, os oes gan y masnachwr fwy nag un cyfeiriad yn y gofrestr, ym mhrif gyfeiriad y masnachwr yn y gofrestr.
(2) Caniateir i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i unrhyw berson arall gael ei gyflwyno drwy—
(a)ei ddanfon yn bersonol; neu
(b)ei adael ar ei gyfer, neu ei anfon ato drwy’r post, yn ei gartref neu ei fan gwaith hysbys diwethaf.
(3) Os yw hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn i’w gyflwyno i’r meddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am y fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.
(4) Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—
(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw;
(b)yn achos partneriaeth (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth; neu
(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.
(5) At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
36. Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo roi gwybod i’r arolygydd ar unwaith a gydymffurfiwyd â gofynion yr hysbysiad ac, os gwnaed hynny, ddarparu manylion y camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r gofynion hynny i’r arolygydd.
37.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd unrhyw gamau, neu i beri cymryd unrhyw gamau, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2) Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr o’r bwriad i fynd i’r fangre wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.
(5) Caiff arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(6) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;
(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;
(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan yr arolygydd.
(7) Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(8) Pan fo arolygydd yn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru adennill, fel dyled gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt wrth gymryd y camau hynny.
(9) Yn yr erthygl hon, ystyr “mangre yr effeithir arni” (“affected premises”) yw unrhyw fangre y gall unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod yn bresennol ynddi neu arni.
38.—(1) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan erthygl 31, 33 neu 37, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno; a
(b)y bodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
(3) Mae gwarant yn ddilys am un mis.
(4) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.