RHAN 4Cofrestru masnachwyr planhigion ac awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion
Cofrestr o fasnachwyr planhigion25
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n rhestru’r manylion a ganlyn mewn perthynas â phob masnachwr planhigion sy’n bodloni gofynion y Rhan hon—
a
enw’r masnachwr planhigion;
b
enw unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am wneud y cais ar gyfer y masnachwr planhigion o dan erthygl 27;
c
enw masnachu’r masnachwr planhigion, os yw’n wahanol i enw’r masnachwr planhigion;
d
manylion y gweithgareddau y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt ac y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â hwy neu’n bwriadu ymgymryd â hwy;
e
cyfeiriad pob mangre y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi neu’n bwriadu ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi; ac
f
rhif cofrestru unigryw i’r masnachwr planhigion.
2
Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’w harolygu gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Rhwymedigaeth i gofrestru26
1
Ni chaiff unrhyw fasnachwr planhigion ymgymryd ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo mewn unrhyw fangre oni bai bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gweithgaredd yn y fangre honno.
2
Ond nid oes angen i fasnachwr planhigion fod yn gofrestredig mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo os yw—
a
y masnachwr planhigion yn gynhyrchydd; a
b
y cyfan o’r deunydd perthnasol y mae’r masnachwr planhigion yn ei gynhyrchu a’i werthu wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes.
Gofynion cofrestru27
1
Rhaid i gais am gofrestriad—
a
cael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru; a
b
bod ar ffurf a chynnwys yr wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn rhesymol ofynnol at ddiben ystyried y cais.
2
Rhaid i fasnachwr planhigion hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ar unwaith os ceir—
a
cyn bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru, unrhyw newid yn amgylchiadau’r masnachwr planhigion a gofnodir yng nghais y masnachwr planhigion am gofrestriad; neu
b
unrhyw newid yn y manylion a restrir yn y gofrestr mewn perthynas â’r masnachwr planhigion.
3
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond cofrestru masnachwr planhigion mewn cysylltiad â gweithgaredd neu fangre os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau yn erthygl 28(1) ac yn fodlon gwneud hynny.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu masnachwr planhigion pan fydd y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru.
Amodau ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig fel masnachwr planhigion ac amodau eraill sy’n gysylltiedig â masnach28
1
Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig—
a
cadw cynllun cywir o bob un o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion;
b
cadw cofnod o’r holl ddeunydd perthnasol—
i
a brynir gan y masnachwr planhigion;
ii
a ddygir i unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion at ddiben storio, plannu neu gynhyrchu’r deunydd yn y fangre honno; neu
iii
a gynhyrchir yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion, neu a anfonir ohonynt;
c
cadw pob dogfen y mae’r masnachwr planhigion wedi ei chreu neu wedi ei chael ac sy’n ymwneud â’r cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) am o leiaf un flwyddyn o’r dyddiad y creodd neu y cafodd y masnachwr planhigion hi;
d
dynodi unigolyn (pa un ai’r masnachwr planhigion neu berson arall) sy’n dechnegol brofiadol mewn perthynas â’r gweithgareddau cofrestredig a’r materion iechyd planhigion cysylltiedig sy’n effeithio ar y fangre gofrestredig ac sydd ar gael i gydgysylltu â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y Gorchymyn hwn;
e
archwilio pob un o’r mangreoedd cofrestredig a’r deunydd perthnasol yn y mangreoedd hynny ar yr adegau ac yn y modd a bennir mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd;
f
gwneud datganiad bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) i (e) ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac yn fodlon gwneud hynny; ac
g
cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben asesu presenoldeb neu ledaeniad unrhyw bla planhigion yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion oherwydd cyflwr y fangre honno neu’r mangreoedd hynny.
2
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir ym mharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad y masnachwr planhigion dros dro hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau hynny ac yn fodlon gwneud hynny.
3
Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion penodedig Xylella, neu y’u cyflenwir hwy iddo—
a
cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gyflenwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd y lot iddo am dair blynedd o’r dyddiad y’i cyflenwyd;
b
cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gafwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd y lot am dair blynedd o’r dyddiad y’i cafwyd; ac
c
yn union ar ôl anfon neu gael unrhyw lot o’r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y manylion a bennir yn Erthygl 10(4) o Benderfyniad (EU) 2015/789 mewn cysylltiad â’r lot honno.
4
Ym mharagraff (3)—
a
mae i “gweithredwr proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional operator” yn Erthygl 1(d) o Benderfyniad (EU) 2015/789;
b
ystyr “planhigion penodedig Xylella” (“Xylella specified plants”) yw—
i
planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, neu wedi eu symud drwy ardal o’r fath;
ii
planhigion, ac eithrio hadau, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789.
Awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion29
1
Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig sy’n dymuno dyroddi pasbortau planhigion mewn perthynas â deunydd perthnasol sydd i’w symud o unrhyw fangre yng Nghymru wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am yr awdurdod i wneud hynny.
2
Rhaid i’r ceisydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw fanylion sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r deunydd perthnasol.
3
Caiff Gweinidogion Cymru gynnal unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre y mae’r deunydd i’w symud ohoni y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r cais.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre sy’n destun y cais, wedi eu bodloni—
a
bod y fangre a’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a
b
pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.
5
Rhaid i awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru gael ei roi yn ysgrifenedig a chaniateir ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion perthnasol o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, gan gynnwys y tiriogaethau y bydd y pasbortau planhigion sydd i’w dyroddi yn ddilys ar eu cyfer.
6
Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion yn gyfan gwbl neu mewn perthynas â mangre benodedig neu ddeunydd perthnasol penodedig os nad yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o fangre’r masnachwr planhigion cofrestredig ac unrhyw ddeunydd perthnasol yno, wedi eu bodloni—
a
bod y fangre neu’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a
b
pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.
7
Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbort planhigion, neu amrywio awdurdodiad, i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, os ydynt wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu ag—
a
hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol ag erthygl 27(2) am unrhyw newid yn y manylion a gofrestrwyd mewn perthynas â’r masnachwr planhigion;
b
cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn erthygl 28(1);
c
cydymffurfio ag unrhyw amodau yn yr awdurdodiad a roddwyd o dan baragraff (5); neu
d
cydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r masnachwr planhigion o dan erthygl 32.
8
Yn yr erthygl hon ystyr “pla planhigion perthnasol” (“relevant plant pest”) yw—
a
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1; neu
b
mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno sy’n bresennol ar y deunydd perthnasol.