2018 Rhif 1064 (Cy. 223)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer—

a

y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671, ac i’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan adran 4(1) o’r Ddeddf honno, a freinir bellach ynddynt hwy2; a

b

y pwerau a roddir gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724. Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt yn erthygl 2(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.