xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11Amrywiol

Dirymu a darpariaethau trosiannol

49.—(1Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(1) a’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 18 wedi eu dirymu.

(2Bydd unrhyw hysbysiad a ddyroddwyd, neu unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth arall a roddwyd o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei rhoi neu ei roi o dan y Gorchymyn hwn.

(3Mae cofnodion sydd ar y gofrestr a gedwir o dan erthygl 25(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym i’w trin fel pe baent wedi eu cofnodi ar y gofrestr o dan erthygl 25(1) o’r Gorchymyn hwn.