47.—(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio trosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii)) yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii) yn agored—
(a)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau;
(b)o’i euogfarnu’n ddiannod, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na thri mis, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol neu i’r ddau.