RHAN 10Troseddau

Troseddau46

1

Mae person yn cyflawni trosedd os ydyw, heb esgus rhesymol, y mae’n rhaid i’r person ei brofi—

a

yn torri neu’n methu â chydymffurfio ag—

i

erthygl 6(1);

ii

erthygl 9;

iii

erthygl 10(1) neu (2);

iv

erthygl 16(2), (3) neu (4);

v

erthygl 17(6);

vi

erthygl 19(1);

vii

erthygl 20;

viii

erthygl 21;

ix

erthygl 24(3) neu (4);

x

erthygl 26;

xi

erthygl 27(2);

xii

erthygl 28(1) neu (3);

xiii

erthygl 39(1) neu (2);

xiv

erthygl 41(4);

xv

erthygl 42(1);

xvi

erthygl 43(1);

xvii

erthygl 45(3); neu

xviii

paragraffau 5, 8, 9 neu 11 o Atodlen 14;

b

yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynir i’r person, neu mewn trwydded neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir, o dan y Gorchymyn hwn; neu

c

yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer y pwerau a roddir i’r arolygydd gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano.

2

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, at ddiben sicrhau y dyroddir pasbort planhigion, pasbort planhigion amnewid, tystysgrif ffytoiechydol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn—

a

yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n ddi-hid o ran manylyn perthnasol; neu

b

yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

3

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person—

a

yn dyroddi pasbort planhigion mewn modd anonest;

b

yn newid pasbort planhigion mewn modd anonest; neu

c

yn ailddefnyddio pasbort planhigion mewn modd anonest.

4

Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan baragraff (1)(a)(xvii) brofi bod y person yn credu’n rhesymol—

a

bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu

b

bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd eisoes a hynny mewn modd cyfreithlon.

5

Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

6

At ddibenion paragraff (5), mae “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o’r corff corfforaethol.

7

Pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth Albanaidd ac y profir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

8

Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i weithred neu anwaith rhyw berson arall, caniateir i’r person arall hwnnw gael ei gyhuddo a’i euogfarnu o’r drosedd honno yn rhinwedd y paragraff hwn pa un a ddygir achos am y drosedd yn erbyn y person a grybwyllir gyntaf ai peidio.