RHAN 7Rhywogaethau mochlysaidd penodol: plannu a rheoli plâu planhigion perthnasol

Darpariaethau amrywiol ar gyfer rhywogaethau mochlysaidd penodol39

1

Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol unrhyw datws neu unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny, sydd wedi eu tyfu mewn trydedd wlad, ac eithrio’r Swistir, na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu.

2

Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws yn fwriadol na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

a

eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir;

b

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/57/EC; ac

c

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

3

Mae’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â rheoli plâu planhigion penodol—

a

Atodlen 13 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Clefyd y ddafaden tatws);

b

Atodlen 14 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Llyngyr tatws);

c

Atodlen 15 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws); a

d

Atodlen 16 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws).

4

Pan gadarnheir bod Pydredd coch tatws yn bresennol ar sampl a gymerwyd yn unol ag Erthyglau 2 a 5 o Gyfarwyddeb 98/57/EC, caiff arolygydd ddarnodi parth yn unol ag Erthygl 5(1)(a)(iv) neu 5(1)(c)(iii) o’r Gyfarwyddeb honno er mwyn atal y pla planhigion hwnnw rhag lledaenu.