RHAN 6Mesurau i reoli glanio deunydd perthnasol ac atal plâu planhigion rhag lledaenu

Archwilio, cymryd samplau a marcio31

1

Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre ar bob adeg resymol at ddiben—

a

canfod presenoldeb neu ddosbarthiad pla planhigion yn y fangre;

b

gwirio a gydymffurfiwyd ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn;

c

cynnal archwiliad o fangre masnachwr planhigion (gan gynnwys deunydd perthnasol, dogfennau neu gofnodion yn y fangre) mewn cysylltiad ag awdurdodiad neu gais am awdurdodiad y masnachwr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion o dan erthygl 29;

d

gorfodi darpariaethau’r Gorchymyn hwn fel arall.

2

Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.

4

Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

5

Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

a

archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre neu unrhyw wrthrych yn y fangre;

b

cymryd samplau o unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol, neu o unrhyw gynhwysydd neu becyn, neu o unrhyw ddeunydd sydd wedi bod, neu y gallai fod wedi bod, mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol;

c

arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd perthnasol.

6

Caiff arolygydd, at ddiben arfer pŵer a roddir o dan baragraff (5), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ran yr arolygydd, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.

7

Caiff arolygydd wahardd symud, trin neu ddifa unrhyw bla planhigion, deunydd perthnasol, cynhwysydd neu becyn neu unrhyw ddeunydd a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r arolygydd i arfer y pwerau a roddir gan baragraff (5).

8

Pan gedwir unrhyw ddogfen y cyfeirir ati neu unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) ar gyfrifiadur, caiff arolygydd—

a

mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod neu’r ddogfen, a’u harolygu a gwirio eu gweithrediad;

b

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu, roi i’r arolygydd unrhyw gymorth y bo’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol.

9

Caiff arolygydd ddifa neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan baragraff (5)(b) pan na fo angen y sampl ar yr arolygydd mwyach o dan y Gorchymyn hwn.

10

Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

11

Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10)—

a

aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

b

dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

c

cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.

12

Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.