xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
30.—(1) Nid yw’r gofynion yn erthygl 7 i dystysgrif ffytoiechydol fynd gyda deunydd perthnasol penodol yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei draddodi’n uniongyrchol o’r Swistir i Gymru, mae unrhyw ofynion yn erthygl 7 fod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi eu bodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.
(3) Nid yw’r gofynion yn erthyglau 6 a 10 yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—
(a)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid yn Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir; neu
(b)y mae pasbort planhigion y Swistir yn mynd gydag ef yn unol â pharagraff (2).
(4) Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei gyflwyno i Gymru o’r Swistir drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, mae unrhyw ofyniad yn Rhan 3 fod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi ei fodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.