Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Amodau ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig fel masnachwr planhigion ac amodau eraill sy’n gysylltiedig â masnach

28.—(1Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig—

(a)cadw cynllun cywir o bob un o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion;

(b)cadw cofnod o’r holl ddeunydd perthnasol—

(i)a brynir gan y masnachwr planhigion;

(ii)a ddygir i unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion at ddiben storio, plannu neu gynhyrchu’r deunydd yn y fangre honno; neu

(iii)a gynhyrchir yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion, neu a anfonir ohonynt;

(c)cadw pob dogfen y mae’r masnachwr planhigion wedi ei chreu neu wedi ei chael ac sy’n ymwneud â’r cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) am o leiaf un flwyddyn o’r dyddiad y creodd neu y cafodd y masnachwr planhigion hi;

(d)dynodi unigolyn (pa un ai’r masnachwr planhigion neu berson arall) sy’n dechnegol brofiadol mewn perthynas â’r gweithgareddau cofrestredig a’r materion iechyd planhigion cysylltiedig sy’n effeithio ar y fangre gofrestredig ac sydd ar gael i gydgysylltu â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y Gorchymyn hwn;

(e)archwilio pob un o’r mangreoedd cofrestredig a’r deunydd perthnasol yn y mangreoedd hynny ar yr adegau ac yn y modd a bennir mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd;

(f)gwneud datganiad bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) i (e) ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac yn fodlon gwneud hynny; ac

(g)cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben asesu presenoldeb neu ledaeniad unrhyw bla planhigion yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion oherwydd cyflwr y fangre honno neu’r mangreoedd hynny.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir ym mharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad y masnachwr planhigion dros dro hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau hynny ac yn fodlon gwneud hynny.

(3Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion penodedig Xylella, neu y’u cyflenwir hwy iddo—

(a)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gyflenwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd y lot iddo am dair blynedd o’r dyddiad y’i cyflenwyd;

(b)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gafwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd y lot am dair blynedd o’r dyddiad y’i cafwyd; ac

(c)yn union ar ôl anfon neu gael unrhyw lot o’r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y manylion a bennir yn Erthygl 10(4) o Benderfyniad (EU) 2015/789 mewn cysylltiad â’r lot honno.

(4Ym mharagraff (3)—

(a)mae i “gweithredwr proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional operator” yn Erthygl 1(d) o Benderfyniad (EU) 2015/789;

(b)ystyr “planhigion penodedig Xylella” (“Xylella specified plants”) yw—

(i)planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, neu wedi eu symud drwy ardal o’r fath;

(ii)planhigion, ac eithrio hadau, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789.