10.—(1) Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy na pheri i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy gael ei symud o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion oni bai bod arolygydd wedi gollwng y deunydd o dan erthygl 12 neu y caniateir symud y deunydd o dan Ran 6.
(2) Rhaid i’r mewnforiwr storio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n cael ei ddal mewn man cyrraedd neu ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig o dan baragraff (1), o dan oruchwyliaeth arolygydd ac yn unol â’i gyfarwyddiadau.
(3) Mae’r mewnforiwr yn atebol am gostau storio’r deunydd perthnasol hysbysadwy cyn iddo gael ei ryddhau.