2018 Rhif 1057 (Cy. 221)
Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 33 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 20171.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 20172
Yn adran 29(1) (defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, yn lle paragraff (a) rhodder—
a
yn warediad deunydd—
i
sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu
ii
sy’n uwchbridd i gyd, a
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)