Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 19 Hydref 2018.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder2.
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
Diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 20153.
“(r)
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’r M4 o’r man y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt 85 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw.”
YR ATODLENY DARNAU O DRAFFORDD YR M4
Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth gyffordd 28 (Cyfnewidfa Tredegar) yn Ninas Casnewydd—
(a)
y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 85 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 355 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw, am bellter o 270 o fetrau; a
(b)
y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 155 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 455 o fetrau i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, am bellter o 300 metr.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015 (O.S. 2015/1018 (Cy. 72)). Effaith y diwygiad yw dileu darn bach o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o’r rhan o’r ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy. Mae terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr yn gymwys i’r darn hwnnw o’r ffordd ymadael o dan y Rheoliadau hyn.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwneir ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.