NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015 (O.S. 2015/1018 (Cy. 72)). Effaith y diwygiad yw dileu darn bach o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o’r rhan o’r ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy. Mae terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr yn gymwys i’r darn hwnnw o’r ffordd ymadael o dan y Rheoliadau hyn.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwneir ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.