2018 Rhif 1036 (Cy. 218)
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 19 Hydref 2018.
2
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
Gosod terfyn cyflymder2
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
Diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 20153
Yn yr Atodlen i Reoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 20152, yn lle paragraff (r) rhodder—
r
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’r M4 o’r man y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt 85 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw.
YR ATODLENY DARNAU O DRAFFORDD YR M4
Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth gyffordd 28 (Cyfnewidfa Tredegar) yn Ninas Casnewydd—
a
y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 85 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 355 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw, am bellter o 270 o fetrau; a
b
y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 155 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 455 o fetrau i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, am bellter o 300 metr.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)