NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r pumed gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
adran 52 (datganiad gan berchennog i ddod â diwedd i ddefnyddio tir drwy hawl);
adran 53 (eithrio o’r hawl i wneud cais am gofrestru); ac
Atodlen 6 (meysydd tref a phentref: Atodlen 1B newydd i Ddeddf Tiroedd Comin 2006).
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru tir yn faes tref neu bentref o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
