xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Nid yw adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1) (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) yn gymwys i gais o dan adran 15(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(2) i gofrestru tir yng Nghymru yn faes tref a phentref, a anfonir cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2.
(2) At ddibenion adran 15C o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (fel y’i diwygir gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, ac Atodlen 6 iddi) nid oes wahaniaeth a fu digwyddiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1B i Ddeddf Tiroedd Comin 2006 cyn y diwrnod a bennir gan erthygl 2, ar y diwrnod hwnnw, neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
2006 p. 26; mewnosodwyd adran 15C gan adran 16(1) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) (“Deddf 2013”).
Diwygiwyd adran 15 gan adran 14 o Ddeddf 2013.