(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caniateir i dir gael ei gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”). Un o nodweddion pob un o’r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon ‘drwy hawl’ ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.
Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda’r datganiad.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi ffurf y datganiad y caniateir ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin a ffurf y map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad.
Mae rheoliad 4 yn galluogi’r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ragnodi ffi resymol mewn perthynas ag adneuo datganiad.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phryd y mae datganiad i’w drin fel pe bai wedi ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin reoli’r broses o adneuo datganiad, a rhoi cyhoeddusrwydd iddi.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â gwybodaeth benodol y mae’n rhaid ei chynnwys yn y gofrestr sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin gadw’r gofrestr honno sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006, gan gynnwys gofynion sy’n ymwneud â fersiynau papur a fersiynau electronig.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin dynnu cofnod o’r gofrestr honno, neu unrhyw ran o gofnod, yn achos camgymeriad perthnasol, yn ddarostyngedig i hysbysiad blaenorol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.