Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;

  • ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;

  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

  • mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);

  • ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;

  • ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.

Ffurfiau rhagnodedig y datganiad a’r map3

1

Rhaid i ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—

a

bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn achos penodol; a

b

cael ei lofnodi—

i

gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a

ii

gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.

2

Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.

Ffioedd4

1

Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo datganiad.

2

Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.

Amseru adneuo5

Mae datganiad i’w ystyried fel pe bai wedi ei adneuo o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 ar y diwrnod pan fydd y canlynol wedi dod i law’r awdurdod—

a

datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);

b

map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac

c

unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.

Rheoli’r datganiad a rhoi cyhoeddusrwydd iddo6

1

Pan fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2), rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r perwyl hwnnw.

2

Rhaid i hysbysiad o’r fath—

a

nodi’r gofyniad o dan sylw; a

b

nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.

3

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—

a

anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a

b

rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).

4

Rhaid i’r awdurdod—

a

cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;

b

cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;

c

arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—

i

wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu

ii

mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.

5

Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.

6

Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.

Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr7

1

Rhaid i’r gofrestr gynnwys—

a

manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;

b

mynegai i’r gofrestr; ac

c

unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

2

Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—

a

copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;

b

copi o’r datganiad;

c

enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;

d

y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;

e

manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—

i

cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;

ii

enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;

iii

cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a

iv

enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).

Y modd y cedwir y gofrestr8

1

Rhaid i’r gofrestr—

a

cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;

b

cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—

i

yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a

ii

yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.

2

Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.

3

Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.

4

Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—

a

pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;

b

fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.

Tynnu cofnodion o’r gofrestr9

1

Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad perthnasol.

2

Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru