Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2018
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17, 54 a 93 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno.