xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
29 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 11(3) a (5) o Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaethau Arbed) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018.
2. 26 Ionawr 2019 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a)adran 6 (diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael) a 7 (dileu’r pŵer i roi grantiau mewn cysylltiad â disgowntiau); a
(b)Atodlen 1 (diwygiadau a diddymiadau canlyniadol)(3).
3.—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r landlord yn unol ag adran 122 o Ddeddf 1985(4) cyn 26 Ionawr 2019; a
(b)i unrhyw roddiad a wneir yn unol ag adran 138(1) o Ddeddf 1985, gan ddilyn ymlaen o hysbysiad o’r fath.
(2) Er gwaethaf y ffaith bod adran 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi, wedi dod i rym, mae’r darpariaethau a ddiwygir, a addesir neu a ddiddymir gan y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn cael effaith ar 25 Ionawr 2019.
4.—(1) Er gwaethaf y ffaith bod adran 7 o’r Ddeddf wedi dod i rym, mae adran 21 o Ddeddf Tai 1996(5) yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn cael effaith ar 25 Ionawr 2019 mewn perthynas ag unrhyw warediadau a wneir y caiff yr adran honno fod yn gymwys iddynt cyn 26 Ionawr 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un
29 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn penodi 26 Ionawr 2019 fel y dyddiad y daw adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf i rym. Mae’r adrannau hyn yn diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael, ac yn cael gwared ar y pŵer i roi grantiau mewn cysylltiad â gwaredu am bris gostyngol ac eithrio yn unol â’r hawl i gaffael.
Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth arbed i sicrhau y parheir i fwrw ymlaen ag unrhyw hawliadau i arfer yr hawl i brynu neu’r hawl i gaffael a gyflwynir i’r landlord cyn 26 Ionawr 2019 o dan ddeddfwriaeth nad yw bellach yn gymwys fel arall mewn perthynas ag anheddau yng Nghymru. Mae’r ddarpariaeth arbed hon hefyd yn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar 25 Ionawr 2019 yn parhau i fod yn gymwys i werthiannau a wneir o dan yr hawl i brynu a’r hawl i gaffael. Mae hyn yn golygu y bydd dyletswyddau presennol, er enghraifft y ddyletswydd i ad-dalu disgownt os caiff eiddo ei ailwerthu o fewn 5 mlynedd, yn parhau i fod yn gymwys.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth arbed i gadw effaith adran 21 o Ddeddf Tai 1996 mewn perthynas ag unrhyw warediadau a wneir cyn 26 Ionawr 2019.
Cyflwynir Atodlen 1 (sy’n gwneud diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) gan adran 6(3) o’r Ddeddf.
Addaswyd Rhan 5 gan Orchymyn Tai (Ymestyn yr Hawl i Brynu) 1993 (O.S. 1993/2240), Rheoliadau Tai (Cadw’r Hawl i Brynu) 1993 (O.S. 1993/2241) a Rheoliadau Tai (Hawl i Gaffael) 1997 (O.S. 1997/619).
1996 p. 52. Diwygiwyd adran 21 gan adrannau 218 a 266 o Ddeddf Tai 2004, a pharagraffau 7 a 10 o Atodlen 11, ac Atodlen 16, iddi, adrannau 61 a 185 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008, a Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cofrestru Awdurdodau Lleol) 2010 (O.S. 2010/844).