NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2018 ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.