Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Chwefror 20182.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Chwefror 2018—
(a)
Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a
(b)
adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2018 ddarpariaethau o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 2 | 4 Hydref 2017 | |
Adran 3 | 4 Hydref 2017 | |
Adran 119 | 4 Hydref 2017 |
Gweler hefyd adran 126(1) o’r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 3 Gorffennaf 2017 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).