Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 2017.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref2.
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 4 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny—
(a)
£57,500 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
(b)
£5,750 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
(c)
£5,750 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
Dirymu ac arbed3.
(1)
(2)
Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 4 Rhagfyr 2017.
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.
Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £55,000 i £57,500 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,500 i £5,750.
Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, o £5,500 i £5,750.
Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 4 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.