Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2017/949 (Cy. 237) (C. 85) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 967 (Cy. 249) (C. 90)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) (Diwygio) 2017
Gwnaed
3 Hydref 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) a (3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) (Diwygio) 2017.
Diwygio Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
2. Mae erthygl 3 o Orchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017(2) wedi ei dirymu.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn diwygio Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017 (“y Gorchymyn Cychwyn gwreiddiol”).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn Cychwyn gwreiddiol yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2018 ddarpariaethau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 sy’n ymwneud â rhoi tyllau mewn rhannau personol o gyrff plant (Rhan 5 ac adran 94 at ddibenion Rhan 5).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu erthygl 3 o’r Gorchymyn Cychwyn gwreiddiol, a gafodd ei chynnwys drwy gamgymeriad. Bydd y darpariaethau hynny yn cael eu dwyn i rym ar ddyddiad diweddarach drwy orchymyn cychwyn ar wahân.
