NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 39(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol odanynt pan fydd penderfyniadau rheoleiddiol penodol wedi eu gwneud mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth.

Mae adran 39(1)(g) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi amgylchiadau pellach y bydd y ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol yn gymwys odanynt.

Mae adran 39(2) o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch unrhyw wybodaeth bellach y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiadau o’r fath.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ym mhob hysbysiad a wneir o dan adran 39(1). Mae rheoliad 4 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth. Mae rheoliad 5 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth drwy ddileu o’r cofrestriad wasanaeth rheoleiddiedig neu fan y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 6 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch gwneud gorchymyn gan ynad heddwch o dan adran 23 o’r Ddeddf (canslo ar frys neu amrywio ar frys drwy ddileu gwasanaeth neu fan). Mae rheoliad 7 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch canslo dynodiad unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae rheoliad 8 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch achosion sy’n cael eu dwyn yn erbyn person mewn cysylltiad â throsedd o dan Ran 1 o’r Ddeddf neu reoliadau a wneir odani. Mae rheoliad 9 yn nodi’r wybodaeth ychwanegol y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn hysbysiad ynghylch hysbysiad cosb a roddir o dan adran 52 o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 10 yn nodi’r pethau pellach a ragnodir at ddibenion adran 39(1)(g) o’r Ddeddf. Gwneir darpariaeth ynghylch apelau a wneir gan ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r pethau a nodir yn adran 39(1)(a) i (d) a chanlyniad unrhyw apêl. Gwneir darpariaeth hefyd ynghylch canlyniad achosion am droseddau sy’n cael eu dwyn gan Weinidogion Cymru o dan Ran 1 o’r Ddeddf (neu a ragnodir mewn rheoliadau a wneir odani).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.