NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 18 Hydref 2017. Mae’r darpariaethau perthnasol yn ei gwneud yn bosibl paratoi ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Yn benodol, mae’r darpariaethau perthnasol—

(a)

yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth;

(b)

yn rhoi pŵer i’r Prif Gofrestrydd Tir ymrwymo i drefniadau gydag Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) at ddibenion galluogi ACC i wirio y cydymffurfiwyd â gofynion y Ddeddf; ac

(c)

yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.