Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Hydref 20172.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 4 Hydref 2017—
(a)
adran 2 (strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu);
(b)
adran 3 (gweithredu’r strategaeth genedlaethol); ac
(c)
adran 119 (derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 20183.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ionawr 2018—
(a)
Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a
(b)
adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â’r strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.
Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2018 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.