Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 949 (Cy. 237) (C. 85)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017

Gwnaed

27 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) a (3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Hydref 2017

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 4 Hydref 2017—

(a)adran 2 (strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu);

(b)adran 3 (gweithredu’r strategaeth genedlaethol); ac

(c)adran 119 (derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2018

3.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ionawr 2018—

(a)Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a

(b)adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â’r strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.

Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2018 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.