Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
Y diwrnod penodedig2.
1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—
(a)
adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;
(b)
adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);
Hwn yw’r nawfed Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”), sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn darparu mai 1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau o’r Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru—
adran 8(2) ac Atodlen 1 i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;
adran 10(2);
adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—
adrannau 59 a 105(1) o Ddeddf Plant 1989,
adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005,
adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mae paragraff 19 o Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i ystyr “childcare” yn adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mae adran 10(2) yn mewnosod adran 25C yn Neddf Plant 1989, sy’n cynnwys pŵer i wneud rheoliadau er mwyn i’r Arglwydd Ganghellor estyn swyddogaethau statudol Swyddogion Adolygu Annibynnol (sydd â swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol).
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 8(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 8(1) (at y dibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2016 | |
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraff 4 o Atodlen 1 | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 3(1), (2) a (3), 5, 6, 15, 16 i 18 ac 21 o Atodlen 1 | 6 Ebrill 2016 | |
Adran 8(3) ac Atodlen 2 | 31 Mawrth 2010 | |
Adran 10(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 10(1) (at y dibenion sy’n weddill), a 10(3) | 6 Ebrill 2016 | |
Adran 15 (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Mawrth 2011 | |
Adran 16(1) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2016 | |
Adran 19 | 28 Mawrth 2011 | |
Adran 20(3) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill) | 1 Medi 2011 | |
Adran 21(2) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill) | 18 Mawrth 2011 | |
Adran 22(3) a (5) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 22 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | |
Adran 23(1) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | |
Adran 24 | 19 Mehefin 2012 | |
Adran 25(4) (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 25 (at y dibenion sy’n weddill) | 19 Mehefin 2012 | |
Adran 27 | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 28 | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 29 (yn rhannol) | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 29 (at y dibenion sy’n weddill) | 28 Mawrth 2011 | |
Adran 30 | 6 Ebrill 2009 | |
Adran 33 | 26 Ebrill 2010 | |
Adran 34 | 31 Mawrth 2010 | |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | |
Adran 36 | 1 Medi 2009 | |
Adran 37 | 1 Medi 2009 | |
Adran 38 | 1 Medi 2009 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2009 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu’n rhannol adran 91(1) o Ddeddf Plant 1989 | 1 Medi 2009 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | 31 Mawrth 2010 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 104 o Ddeddf Plant 1989 a diddymu’n rhannol adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 | 28 Mawrth 2011 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 17(6), diddymu adran 23B(4) i (7) a diddymu’n rhannol baragraff 6(1) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 | 19 Mehefin 2012 | |
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 26(2)(k) a (2A) i (2D) o Ddeddf Plant 1989 | 6 Ebrill 2016 |
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 17 | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 18 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | |
Adran 18 (at y dibenion sy’n weddill) | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 |
Mae amrywiol ddarpariaethau o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr drwy’r Gorchmynion Cychwyn a ganlyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o’r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).